Manylion y penderfyniad

Clampio a Symud Cerbydau wedi'u Parcio'n Anghyfreithlon a Cherbydau heb eu Trethu o'r Briffordd a Thir Cyhoeddus

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Gall cerbydau niwsans greu problemau sylweddol ac yn gwylltio dinasyddion sy’n cydymffurfio â’r gyfraith.  Bydd darparu’r gwasanaeth hwn yn galluogi’r cyfle i ddefnyddio pwerau’r DVLA wedi’u dirprwyo i fynd i’r afael â cherbydau heb eu trethi mewn ardaloedd cyhoeddus.

 

Penderfyniad:

Eithrir Atodiad B yr adroddiad hwn rhag cyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth fel y disgrifir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Rhestr 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo'r polisi newydd ar gyfer clampio a symud cerbydau sy’n peri niwsans oherwydd parcio anghyfreithlon neu gerbydau heb dreth (atodiad 1)

 

2.   bod y Cyngor yn derbyn y grymoedd a ddatganolwyd ar Reoliadau Treth Car (Atal, Symud a Gwaredu Cerbydau) 1997.

 

3.   Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Strydlun i arwyddo’r llythyr cytundeb rhwng DVLA a Chyngor Caerdydd (Partner Pwerau a Ddatganolwyd).

 

Dyddiad cyhoeddi: 19/11/2018

Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/11/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 29/11/2018

Dogfennau Cefnogol: