Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Mae Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gofyn am sefydlu cronfeydd cronnol mewn perthynas â llety gofal i bobl h?n erbyn 6 Ebrill 2018. Mae hyn yn cynnwys Gofal Iechyd Parhaus, Gofal Nyrsio wedi’i Ariannu a chyfrifoldebau’r awdurdod lleol dros leoliadau tymor hir. Disgwylir i hyn fod oddeutu £46.1m - £33.9m yng Nghaerdydd.
(£22m Cyngor Caerdydd + £11.9m Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) a £12.3m ym Mro Morgannwg (£6.3m Cyngor Bro Morgannwg a £5.9m Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) Diben y gofyniad hwn yw i sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol yn cydweithio i wneud y mwyaf o’u dylanwad ar ddatblygu gwasanaethau i’r dyfodol, gan gynnwys sicrhau bod capasiti digonol ac ystod priodol o wasanaethau o safon i ateb y galw.
Bydd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar y dull arfaethedig ledled Caerdydd a’r Fro i geisio cymeradwyaeth ar drefniadau rheoli manwl
fydd yn cael eu datblygu erbyn mis Ebrill 2018.
Mae Atodiad 2 wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â darpariaethau Atodlen 12A Rhan 4 paragraff 16 Deddf Llywodraeth Leol 1972
PENDERFYNWYD:
1. y dylid nodi’r cynnydd mewn perthynas â bodloni gofynion Rhan 9, gan gynnwys sefydlu cyllideb gronnol ar gyfer llety gofal
2. cymeradwyo sefydlu cyllideb gronnol ar gyfer llety gofal i bobl h?n, gyda Chyngor Caerdydd yn gweithredu fel sefydliad cynnal fel y nodir yn yr adroddiad. Bydd trefniadau o'r fath yn weithredol o 1 Ebrill 2018 ymlaen.
3. y dylid rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a'r Gwasanaethau Cyfreithiol i ymdrin â phob agwedd ar y Gytundeb Partneriaeth (gan gynnwys gosod yr un peth) ac unrhyw faterion cysylltiedig perthnasol
4. cymeradwyo Datganiad Sefyllfa’r Farchnad a’r Strategaeth Gomisiynu Gwasanaethau Gofal a Chymorth Pobl H?n fel y nodir yn Atodiad 1
Dyddiad cyhoeddi: 18/01/2018
Dyddiad y penderfyniad: 18/01/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/01/2018 - Cabinet
Effeithiol O: 31/01/2018
Dogfennau Cefnogol: