Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Sicrhau bod aelodau’n cael gwybodaeth lawn am yr ateb strategol ehangach a gynigir ar gyfer trefnu llefydd cynradd i wasanaethu Llanrhymni, rhannau o Bontprennau a Phentref Llaneirwg, yn cynnwys:
• digon o lefydd;
• sut y caiff canlyniadau eu gwella ar gyfer disgyblion;
• nodau buddsoddi ar gyfer yr ardal i fanteisio teuluoedd â phlant ifainc yn y gymuned.
PENDERFYNWYD:
1. Y nodir y bydd Ysgol Gynradd Glan yr Afon yn bwrw ymlaen â’r broses o ffedereiddio yn cael ei dilyn gan ysgol gynradd arall yng Nghaerdydd (i'w phenderfynu) fel rhan o ateb strategol ehangach i leihau lleoedd dros ben yn Llanrhymni ac i wella canlyniadau disgyblion yn Ysgol Gynradd Glan yr Afon.
2. Dylid rhoi cytundeb i swyddogion sy'n archwilio ffynonellau buddsoddi cyfalaf priodol i atgyfnerthu a chydleoli gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a ddarperir yn ardal Llanrhymni i safle Glan yr Afon
Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/03/2019 - Cabinet
Effeithiol O: 03/04/2019
Dogfennau Cefnogol: