Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Dan Adran 50 Deddf Tai (Cymru) 2014, mae’n rhaid i awdurdod tai lleol ymgymryd ag adolygiad digartrefedd i’w ardal, a chreu a mabwysiadu strategaeth ddigartrefedd yn seiliedig ar yr adolygiad hwnnw. Mae’n rhaid i’r Cyngor fabwysiadu strategaeth digartrefedd yn 2018 a strategaeth digartrefedd newydd pob pedair blynedd ar ôl hynny.
Cynhaliwydadolygiad o’r data sydd ar gael, yn archwilio’r prif achosion digartrefedd yng Nghaerdydd, yn canolbwyntio ar brif themâu atal, llety a chymorth.
Byddprif ganfyddiadau o’r adolygiad yn cael eu defnyddio i lywio’r Strategaeth Digartrefedd fydd yn defnyddio dull cydlynol o ran taclo ac atal y mater hwn. Bydd y Strategaeth yn adnabod y gwasanaethau sydd ar gael a sut gallent gael eu gwella i sicrhau bod pobl yn derbyn cymorth a chefnogaeth priodol ac amserol.
PENDERFYNWYD:
1. cytuno ar Strategaeth Ddigartrefedd Caerdydd 2018-2022 fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad
2. cytuno ar y newid arfaethedig i Gynllun Dyrannu Tai Caerdydd fel y nodwyd ym mharagraff 21 yr adroddiad.
Pobl yr ymgynghorir รข hwy
Gofynnwyd am sylwadau gan sefydliadau partner yngl?n â’r gwasanaethau digartrefedd ac mae’r rhain wedi’u defnyddio’n rhan o’r adolygiad. Cynhaliwyd adolygiad cleientiaid i gael barn a phrofiadau’r defnyddwyr gwasanaeth.
Byddymgynghoriad anffurfiol ar y strategaeth yn digwydd ym mis Tachwedd unwaith y mae drafft llawn wedi dod i ben.
Dyddiad cyhoeddi: 13/12/2018
Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/12/2018 - Cabinet
Effeithiol O: 29/12/2018
Dogfennau Cefnogol: