Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Director of Adults Services, Housing & Communities
Statws: Ar gyfer Penderfyniad
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniad:
CYTUNWYD ar y canlynol:
- Yn unol â threfniadau cytundebol, bydd
darparwyr Gofal Ychwanegol a Byw â Chymorth y manylir arnynt
yn y tabl ym mharagraff 32 o'r adroddiad hwn yn derbyn y cynnydd
MPD contractiol blynyddol penodedig.
Fodd bynnag, i gydnabod pwysau CBG, os yw'r codiad cytundebol
blynyddol yn llai na 7.26% (mae'r ffigur hwn yn cynrychioli codiad
MPD o 3% ar 40% o gost y contract, ynghyd â chynnydd CBG o
10.1% ar 60% o gost y contract), bydd y gwahaniaeth hefyd yn cael
ei ddarparu, i gymryd cyfanswm y cynnydd blynyddol i 7.26%. Mae'r
argymhelliad hwn ond yn berthnasol i drefniadau lle mae cyfradd
berthnasol y MPD eisoes yn hysbys ar adeg ysgrifennu'r adroddiad
hwn.
-
Ar gyfer y contractau hynny
lle nad yw'r codiad MPD yn hysbys ar hyn o bryd oherwydd bod y
dyddiad y'i cymhwysir yn disgyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn,
cytunwyd y rhoddir ystyriaeth i ddigonolrwydd y codiad MPD
blynyddol i dalu costau CBG bryd hynny.
- Darperir cymorth dros dro i dalu am y cynnydd Cyflog
Byw Gwirioneddol (CBG) ar ffurf grant i'r darparwyr hynny y mae eu
pen-blwydd dyddiad dechrau contract ar ôl 1 Ebrill, i gefnogi
cynnal a chadw'r CBG yn ystod y cyfnod o fis Ebrill tan ben-blwydd
dyddiad dechrau'r contract pan fydd y codiad blynyddol yn cael ei
drosglwyddo. Bydd y grantiau'n adlewyrchu'r cynnydd canrannol ar
gyfer CBG o 10.1% (y gwahaniaeth rhwng y gyfradd bresennol o
£10.90 a'r gyfradd newydd o £12.00) a briodolir i 60% o
gostau darparwyr y deellir eu bod yn ymwneud â
staffio.
- Y cynnydd o 7.26% ar gyfer darparwyr y manylir arnynt
ym mharagraffau 34 – 36 o'r adroddiad hwn, sy'n ystyried
codiad MPD o 3% a'r cynnydd canran ar gyfer CBG o 10.1% (y
gwahaniaeth rhwng y gyfradd bresennol o £10.90 a'r gyfradd
newydd o £12.00) a briodolir i 60% o gostau darparwyr y
deallir eu bod yn ymwneud â staffio.
Gweinyddu Codiadau yn y
Cyfraddau
- Gweinyddir codiadau yn unol â chytundebau
contractiol. Y grant i'r darparwyr hynny y mae eu dyddiad
pen-blwydd contract yn dechrau ar ôl 1 Ebrill, yn cwmpasu'r
cyfnod o 1 Ebrill 2024 hyd at ben-blwydd dyddiad cychwyn pob
contract pan fydd y codiad MPD yn daladwy.
Amrywiadau mewn
Contractau
- Caiff Ffurflen Amrywio Contract ei chyflwyno i
ddarparwyr sy’n
derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol (a leolir yn Atodiad A), er
mwyn sicrhau eu cytundeb i barhau i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol
i staff cymwys o leiaf o 1 Ebrill 2024.
Rhesymau dros y penderfyniad:
·
Gwneud buddsoddiad teg yn y
ddarpariaeth gwasanaethau o fewn yr adnoddau sydd ar gael, i reoli
effeithiau ariannol newid costau a threfniadau yn y sector gofal
cymdeithasol ynghylch cynnydd mewn cyflogau staff yn gysylltiedig â gweithredu'r Cyflog Byw
Gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol
cymwys,
·
Gofyn am sicrwydd gan
ddarparwyr sy'n derbyn codiad Cyflog Byw Gwirioneddol, eu bod yn
parhau i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf i'w staff cymwys o
1 Ebrill 2024.
Dyddiad cyhoeddi: 11/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 08/04/2024
Effeithiol O: 23/04/2024