Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Trosglwyddo Canolfan Chwarae Llanrhymni a’r tir o’i chwmpas.
Ni chaiff atodiad 2 yr adroddiad ei gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cytunwyd: bod yr eiddo’n cael ei ddatgan yn eiddo nad oes ei angen ar y Cyngor a bod yr eiddo’n cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i Gymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd ar werth y farchnad yn ôl y prisiad trydydd parti annibynnol.
Cael gwared ag eiddo’r Cyngor nad oes ei angen, gan greu derbyniadau cyfalaf ar gyfer Cronfa Gyffredinol y Cyngor, a thrwy wneud hyn cefnogi’r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol newydd mewn ardal y mae angen tai ynddi.
Dyddiad cyhoeddi: 03/08/2020
Dyddiad y penderfyniad: 30/07/2020
Effeithiol O: 13/08/2020