Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Prynu tir 0.486 acer yn 151 Stryd Bute, Butetown, Caerdydd, CF10 5HQ
Ni chaiff Atodiadau 2 a 3 yr adroddiad eu cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir o’r disgrifiad ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cytunwyd: bod y Cyngor yn prynu tir 0.486 acer, sef safle a gliriwyd hen warws ac ystafell arddangos Brandon Tool Hire yn 151 Stryd Bute, Butetown, Caerdydd, CF10 5HQ, am bris a gadarnhawyd gan y prisiad annibynnol fel y nodir yn yr adroddiad wedi’i atodi (Atodiad 2 sy’n gyfrinachol - nid i'w gyhoeddi) ac ar delerau y cytunwyd arnynt gan y Pennaeth Eiddo, Ystadau Strategol a Rheolwr Gweithredol a Phrif Gyfreithiwr y Gwasanaethau Cyfreithiol.
Sicrhau’r eiddo gan ei fod yn cynnig safle datblygu a fydd yn galluogi creu cynllun tai Byw yn y Gymuned newydd i bobl h?n yn rhan o gynlluniau’r Cyngor i adeiladu 1,000 o gartrefi cyngor newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 03/08/2020
Dyddiad y penderfyniad: 30/07/2020
Effeithiol O: 13/08/2020