Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Cytunbeb i Wates Residential symud ymlaen i gam 2/3 rhaglen ddatblygu Cartrefi Caerdydd Gan gynnwys cymeradwyo newidiadau i’r Cytundeb Datblygu a’i amserlenni a chontract adeiladu Dylunio ac Adeiladu 2016 y Tribiwnlys Contractau ar y Cyd gyda diwygiadau.
CYTUNWYD:
(i) I ganiatáu i Wates Residential symud ymlaen i gam 2/3 o raglen ddatblygu Cartrefi Caerdydd a nodir yn y Cytundeb Datblygu.
(ii) Cymeradwyo newidiadau i’r Cytundeb Datblygu a’i amserlenni a chontract adeiladu Dylunio ac Adeiladu 2016 y Tribiwnlys Contractau ar y Cyd wedi’i ddiweddaru yn ôl yr hyn a nodwyd yn yr adroddiad hwn.
Mae cam cyntaf Cartrefi Caerdydd ar y gweill o hyd ond i sicrhau rhaglen barhaus, ac yn dilyn Cymeradwyaeth y Cabinet mewn egwyddor, mae cymeradwyaeth bellach yn cael ei cheisio i alluogi Wates i symud i gam 2/3 a dechrau ar y safle yn haf 2020.
I symud ymlaen i gam 2/3 mae wedi bod angen newid y Cytundeb Datblygu fel y nodir yn yr adroddiad hwn, ac yn amodol ar ei gymeradwyo, mae’r partïon wedi cytuno a byddant yn mynd i Weithred Amrywio. Mae contract a diwygiadau Dylunio a Adeiladu 2016 y Tribiwnlys Contractau ar y Cyd hefyd wedi’u cytuno gan y partïon.
Dyddiad cyhoeddi: 03/08/2020
Dyddiad y penderfyniad: 29/07/2020
Effeithiol O: 13/08/2020