Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Mae deddfwriaeth Safon Lleiafswm Effeithlonrwydd Ynni (MEES) yn gofyn bod pob eiddo preifat a rentir yn bodloni lefel Perfformiad Ynni band E neu’n uwch erbyn Ebrill 2020.
Mae’r gallu gan Awdurdodau Lleol i orfodi deddfwriaeth, pan geir methiant i gydymffurfio. Ond, mae gorfodi ar ei ben ei hun yn heriol o ystyried faint o eiddo sydd. Mae strategaeth wella wedi ei gytuno gyda Phaneli o Arbenigwyr ar Amddiffyn y Cyhoedd
PENDERFYNWYD:
1.
cymeradwyo’r rhan y
mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gymryd i gydlynu’r ymdrech i
wella perfformiad ynni eiddo rhent preifat ar draws Cymru; gan
gynnwys gweinyddu’r Cyllid Cartrefi Cynnes.
2.
dirprwyo awdurdod i’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad
â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i geisio
ffynonellau cyllid newydd i gynorthwyo gyda gwella’r sector
rhent preifat a derbyn a gweinyddu’r cyllid ar ran awdurdodau
Cymru.
3. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i amrywio Memorandwm Dealltwriaeth â Rhentu Doeth Cymru sydd yn ei le gydag awdurdodau lleol i adlewyrchu’r newidiadau gofynnol fel a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019
Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/12/2019 - Cabinet
Effeithiol O: 04/01/2020
Dogfennau Cefnogol: