Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Y Cyngor i fwrw ymlaen i fynd i Fargen Pecyn Un Contractwr gyda Willowmead holdings Ltd ar gyfer datblygu 31 o fflatiau yn Sgwâr Loundon, Butetown, Caerdydd, CF10 5JB ar gyfer creu tai Cyngor newydd.
Bydd y contract ar sail un swm crynswth a gytunwyd ac yn daladwy adeg cwblhau ymarferol a throsglwyddo’r eiddo.
Ni chyhoeddir Atodiad yr adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithriwyd o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD: dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau, i fynd i gontract pris a bennwyd (yn dilyn diwydrwydd dyladwy a nodwyd yn yr adroddiad ac y cymeradwywyd dichonolrwydd derbyniol) gyda Willowmead Holdings Ltd ar gyfer datblygu 31 o fflatiau newydd ar hen safle tafarn y Paddle Steamer yn Butetown.
Dyddiad cyhoeddi: 20/12/2019
Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/12/2019 - Cabinet
Effeithiol O: 04/01/2020
Dogfennau Cefnogol: