Manylion y penderfyniad

Cynnig i Gynyddu Pris Rhentu Rhandir 2020/21

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniad:

Cytunwyd: y caiff y costau rhentu rhandir blynyddol fel y dangosir yn y tabl isod eu cynyddu o’r flwyddyn rhandir sy’n dechrau ar 2 Chwefror 2020.

 

 

Cynnwys Cost£

Newid Cost Arfaethedig£

Cost

Newydd

%

Cynnydd

Llain Categori A (fesul llain)

£12.50

£0.28

£12.78

2.24%

Llain Categori A (fesul llain gyda chonsesiwn)

£6.25

£0.14

£6.39

2,403

Llain Categori B (fesul llain)

£12.12

£0.26

£12.38

2.15%

Llain Categori B (fesul llain gyda chonsesiwn)

£6.06

£0.13

£6.19

2.15%

Llain Categori C (fesul llain)

£11.62

£0.24

£11.86

2.07%

Llain Categori C (fesul llain gyda chonsesiwn)

£5.81

£0.12

£5.93

2.07%

Chalet (Adeilad)

£118.20

£2.48

£120.68

2.10%

Consesiwn Chalet (Adeilad)

£59.10

£1.24

£60.34

2.10%

Ciwbicl Brics (Adeilad)

£27.22

£0.50

£27.77

1.84%

Cynnydd Cyfartalog

 

 

 

2.10%

 

Rhesymau dros y penderfyniad:

Mae’r tabl yn dangos, o dan y cynnig, y byddai’r rhent blynyddol fesul llain yn parhau’n fforddiadwy i gwsmeriaid - yn unol â darpariaethau Deddf Rhandiroedd 1950. Mae’r cynnydd cyfartalog o 2.1% yn seiliedig ar yr RPI ar gyfer Hydref 2019 (y ffigur RPI diweddaraf sydd ar gael).

 

O ran fforddiadwyedd, bydd deiliaid lleiniau 60+ oed a’r sawl sy’n derbyn budd-daliadau cymwys ac sydd â Cherdyn Actif MAX yn parhau i fod yn gymwys am ostyngiad 50% yn y rhent. At hynny, mae opsiwn i ddeiliaid lleiniau ledaenu’r taliadau bob tri mis. Mae gan gwsmeriaid yr opsiwn i dalu Debyd Uniongyrchol am 10 mis hefyd.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 05/12/2019

Effeithiol O: 01/01/2020