Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Yn dilyn peilot llwyddiannus, cynigir y dylid cyflwyno Gwiriadau Seiliedig ar Risgiau ar gyfer bob hawliad. Mae Gwiriadau Seiliedig ar Risgiau yn newid y ffordd y mae hawliadau budd-dal tai yn cael eu gwirio, gan leihau faint o dystiolaeth sy’n ofynnol ar gyfer achosion risg isel tra’n sicrhau bod mwy o sylw’n cael ei roi i wirio hawliadau risg uchel.
Ni fydd Atodiadau A-C yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14, 18 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo’r polisi ar gyfer Dilysu Seiliedig ar Risg fel y’i hatodir yn Atodiad A i’r adroddiad.
2. y bydd y polisi yn dod i rym o 1 Ionawr 2020.
Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Tai a Chymunedau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i adolygu’r polisi yn flynyddol a gwneud newidiadau yn ôl yr angen.
Dyddiad cyhoeddi: 21/11/2019
Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/11/2019 - Cabinet
Effeithiol O: 04/12/2019
Dogfennau Cefnogol: