Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Bydd yr adroddiad yn cyflwyno’r asesiad manwl o’r rhestr fer o fesurau i gydymffurfio â gwerth terfynol NO2 yn yr amser byrraf posibl fel sy’n ofynnol yn ôl y cyfarwyddiadau cyfreithiol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, a chyflwyno opsiwn dewisol i’r Cyngor.
PENDERFYNWYD:
1. yr Adroddiad Achos Busnes Amlinellol yr Astudiaeth Ddichonoldeb Aer Glân a luniwyd gan y cyngor sy'n argymell mai'r dewis a ffefrir gan y Cyngor i gyflawni cydymffurfiad yn yr amser byrraf posibl yw pecyn o fesurau, yn hytrach na Pharth Aer Glân ble Codir tâl i gael ei gymeradwyo.
2. ymgynghori â'r cyhoedd i hysbysu rhanddeiliaid allweddol, busnesau a'r cyhoedd yn ehangach ynghylch yr opsiwn a ffefrir gan y Cyngor, sef pecyn o fesurau a ddatblygir yn Achos Busnes Llawn, a dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynllunio Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, i gymeradwyo'r ddogfennaeth ymgynghori ofynnol.
3. Nodir y bydd y pecyn o fesurau yn cael ei asesu a'i ddatblygu ymhellach yn Achos Busnes Llawn a fydd yn cael ei ddwyn gerbron y Cabinet i'w gymeradwyo cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin 2019, er mwyn cydymffurfio â gofynion Cynllun Terfynol yn unol â'r cyfarwyddyd cyfreithiol
Rhesymau eraill / sefydliadau a ymgynghorwyd
Bydd gwaith ymgysylltu 6 wythnos yn cael ei gynnal ar yr opsiynau dewisol ar ôl cael cymeradwyaeth y Cabinet.
Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/03/2019 - Cabinet
Effeithiol O: 03/04/2019
Dogfennau Cefnogol: