Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
The report will be to update Cabinet on the business plan for the development of the new bus station and to agree the necessary next steps.
Ni fydd Atodiadau 2 – 8 yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
(1) nodi’r cynnydd sylweddol wedi’i wneud mewn misoedd diweddar ar y project Gorsaf Fysus Ganolog a chytuno i’r cynllun aml-ddefnydd arfaethedig
(2) mewn egwyddor cytuno i’r model ariannu newydd arfaethedig yn cynnwys Llywodraeth Cymru a Rightacres Property Ltd fel y nodir yn yr atodiadau cyfrinachol, 2 a 3, sydd wedi'u hatodi.
(3) dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Datblygiad Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i:
(i) Negodi a chwblhau'r holl agweddau ar gytundeb cytundebol terfynol gyda Llywodraeth Cymru a'r datblygwyr fydd yn darparu’r Orsaf Fysus Ganolog newydd yn unol â’r egwyddorion a nodir m Mhenawdau Telerau Partneriaeth Cyflawni’r Metro a gyflwynir yn Atodiad 3 sy’n gyfrinachol.
(ii) Talu'r costau cyn datblygu i Rightacres Property Ltd fel y nodir yn Atodiad 7 sy’n gyfrinachol.
(4) dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor i gyflwyno'r Achos Amlinellol Strategol wedi atodi i Atodiad 6 proses fframwaith sicrwydd y project Bargen Ddinesig sy’n gyfrinachol i ddechrau’r broses o sicrhau cyfraniad gan y Fargen Ddinesig at gostau uwchraddio Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog.
Dyddiad cyhoeddi: 13/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 20/12/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/12/2017 - Cabinet
Effeithiol O: 04/01/2018
Dogfennau Cefnogol: