Manylion y penderfyniad

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau a Moeseg 2016 - 17

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau a Moeseg, Mr. Richard Tebboth Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau a Moeseg 2016/17.

 

Roedd prif fyrdwn y Pwyllgor wedi canolbwyntio ar

·         wneud ei hun yn fwy gweladwy, drwy bresenoldeb mewn cyfarfodydd y Cyngor a'r Pwyllgor a’i friffiadau i Aelodau;

·         paratoi at y sesiynau sefydlu Aelodau Etholedig newydd a hyfforddi asr y Cod Ymarfer. 

·         cynllunio ac ystyried y canlyniad o’r arolwg ymadael yr ymgymerwyd ag ef ym mis Chwefror 2017, yn benodol o gwmpas materion ymddygiadol a digwyddiadau honedig, ac roedd yn falch bod y Cyngor wedi llwyddo i ddarparu cymorth cwnsela cyfrinachol i’r Aelodau yn ôl y gofyn

·         gwrando ar nifer o bryderon a godwyd ar lefelau ymddygiad mewn rhai cyfarfodydd llawn y Cyngor – a ddenodd sylwadau niweidiol yn y cyfryngau cyhoeddus a bu perygl o effeithio enw da y Cyngor yn gyffredinol;

·         dadansoddi cwynion a adroddwyd i’r Swyddog Monitro; cyfeirio achosion i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Cymru a chwynion o dan y protocol Penderfyniad Lleol. Ymdriniwyd ag un achos oedd dros ben o’r flwyddyn flaenorol gan Banel Dyfarnu Cymru  

·         Parhau a’i waith o fod yn rhagweithiol wrth hyrwyddo safonau arfer da a cheisio datrys problemau ar gam cynnar, yn hytrach na dibynnu ar ymateb i gwynion pan fyddant yn cyrraedd lefel fwy ffurfiol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bob aelod o’r Pwyllgor am eu gwaith a’u mewnbwn i waith y Pwyllgorau ac wrth gefnogi swyddogion y Cyngor.  Fel pob amser, mae gwaith y Pwyllgor yn dibynnu’n helaeth ar y cymorth mae’n ei dderbyn gan swyddogion, yn enwedig y Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol a’i holl staff.

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Cymuned John Hughes, a fydd yn ymddiswyddo ar ddiwedd cyfnod hir a theyrngar yn y swydd, a'r aelod annibynnol Hollie Edwards-Davies, a fydd yn ymddiswyddo ar ôl cyfnod gwasanaeth llai hir ond gweithgar.

 

Cododd yr aelodau nifer o faterion ynghylch yr Arolwg Ymadael a dulliau diogelu i Aelodau.  Codwyd rhai pryderon yngl?n â pha mor radical y bu ymateb y Cyngor i’r materion ymddygiadol a godwyd yn ystod y weinyddiaeth ddiwethaf a’r cymorth a roddwyd i Gynghorwyr yr effeithir arnynt gan y fath ymddygiad.  Cydnabuwyd bod briffiadau'r Pwyllgor wedi tanlinellu'r negeseuon o gwmpas Codau Ymddygiad a safonau moesegol. Codwyd pryder ynghylch Aelodau’r Pwyllgor yn arsylwi ar gyfarfodydd, sylwadau cyffredinol ynghylch Aelodau’n gadael cyfarfodydd yn gynnar , teimlwyd nad oedd hyn yn gweddu'n dda i annog cydraddoldeb ac amrywiaeth aelodau y mae ganddynt o bosibl ymrwymiadau personol neu ofalu penodol ac nad oedd cyfarfodydd hir yn cefnogi aelodau yn y rolau hyn. Teimlwyd bod gan y Cyngor ddyletswydd gofal i’r holl Gynghorwyr a'u lles.  

Anogwyd y Pwyllgor i sicrhau bod ei aelodaeth yn fwy amrywiol fel rhan o’r broses recriwtio sydd ar ddod.  

 

Ymatebodd y Cadeirydd i’r materion a godwyd a phwysleisiodd bwysigrwydd grwpiau pleidiau yn cefnogi’r pwyllgor yn ei ymdrechion.  Derbyniodd y Cadeirydd yr angen i gynyddu amrywiaeth ac anogodd pob Aelod i hyrwyddo yn eu cymunedau geisiadau i unrhyw swyddi gweigion sy’n codi.  

 

PENDERFYNWYD – diolch i’r Cadeirydd a phob aelod o’r Pwyllgor Safonau a Moeseg am eu gwaith i gefnogi Aelodau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a derbyn a nodi’r Adroddiad Blynyddol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 12/02/2018

Dyddiad y penderfyniad: 28/09/2017

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/09/2017 - Cyngor

Dogfennau Cefnogol: