Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Mr Ian Arundale, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2016/17. Diolchodd y Cadeirydd yr holl aelodau Pwyllgor am gyflawni craffu cryf ar y swyddogaethau archwilio ac yn benodol diolchodd i’r Dirprwy Gadeirydd, Hugh Thomas am gadeirio dau gyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio yn 2016/17. Diolchodd hefyd i’r Dirprwy Gadeirydd a oedd yn gadael ei swydd, Yr Athro Maurice Pendlebury am ei flynyddoedd lawer o ymroddiad a gwasanaethau a werthfawrogir yn fawr i’r Pwyllgor Archwilio, a chroesawodd Gavin McArthur a David Price fel aelodau annibynnol newydd a ymunodd â’r pwyllgor ar ddiwedd 2016 a dechrau 2017.
Rhoddodd yr adroddiad fanylion am waith y Pwyllgor dros y 12 mis diwethaf o ran darparu sicrwydd ar effeithiolrwydd llywodraethu, rheolaeth a rheolau risg o fewn y Cyngo; ei broses archwilio; rheoli risg a gweithdrefnau rheoli'r trysorlys ac adrodd am y datganiad cyfrifon ac arwain Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor 2016/17
Cydnabu aelodau’r Cyngor rôl bwysig y Cyngor ac ystyriwyd bod yr hunanasesiad yr ymgymerwyd ag ef gan y Pwyllgor yn flynyddol yn arfer da ac yn rhywbeth y gellid ei fabwysiadu gan bwyllgorau neu gyfarwyddiaethau eraill fel ffordd o adolygu perfformiad yn erbyn fframwaith arfer gorau; mesur deilliannau a chyflawniadau; ac adnabod meysydd i’w gwella
PENDERFYNWYD – diolch i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor am eu diwydrwydd a’u gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a derbyn a nodi’r Adroddiad Blynyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 12/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 28/09/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/09/2017 - Cyngor
Dogfennau Cefnogol: