Manylion y penderfyniad

Hysbysiad o Gynnig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Dywedodd yr Arglwydd Faer fod hysbysiad o gynnig, wedi’i gynnig gan y Cynghorydd Dianne Rees sydd wedi’i eilio gan y Cynghorydd Gavin Hill-John, wedi'i gyflwyno a’i gynnwys yn y Gwysion ar gyfer y cyfarfod.

 

Roedd yr Hysbysiad o Gynnig fel a ganlyn:

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:

 

1)  Fel Aelodau Etholedig mae gennym ni gyfrifoldeb dros ein Dinas ac mae hynny’n cynnwys creu cymunedau cynaliadwy, gyda chynlluniau cynhwysfawr i gyflawni datrysiadau ffyrdd a rhwydwaith sy'n gyraeddadwy.

 

2)  Mae Caerdydd yn wynebu tagfeydd traffig a rhwydwaith sylweddol oni bai y cymerir camau brys. Mae dogfennau strategol yn cyfeirio at y ffaith bod rhwydwaith ffyrdd Caerdydd wedi cyrraedd capasiti llawn yn 2010 ac wedi mynd dros gapasiti ers hynny. Mae hyn yn effeithio ar y rhai hynny sy’n byw ac yn gweithio yn y ddinas, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.

 

3) Mae her ddifrifol yn wynebu Caerdydd o ran diffyg capasiti trafnidiaeth gyhoeddus wrth i’r ddinas dyfu yn ystod cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol a thu hwnt. Mae cynnydd o ran capasiti trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd yn hanfodol. Mae hyn o leiaf angen bod yn unol â’r rhagolygon twf sydd wedi'u cynnwys yn y CDLl, ac i baratoi ar gyfer twf mewn cymudwyr yn cyrraedd o awdurdodau cymdogol.  

 

Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i wneud y canlynol:

 

1) Cynhyrchu Cynllun Gweithredu, yn seiliedig ar ddata trafnidiaeth a rhwydwaith manwl gywir a diweddaraf er mwyn mynd i'r afael â'r broblem o ran trafnidiaeth gyhoeddus fel nad yw tagfeydd yn y dyfodol yn achosi i Gaerdydd ddod i stop, er budd y rhai hynny sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a’r rhai hynny nad ydynt.

 

2) Cyflwyno’r cynllun i’r Cyngor Llawn mewn 6 mis.

 

Rhoddodd yr Arglwydd Faer wybod bod dau ddiwygiad i’r Cynnig wedi’u derbyn. - 

 

Diwygiad 1:     Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Emma Sandrey

 

Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Nigel Howells

 

Yn yr adran ‘Nodiadau’r Cyngor’:

 

Rhoi i mewn ym mhwynt 1 ar ôl 'rhwydwaith'; 'beicio, cerddwr ac atebion y ffordd.'

 

Yn yr adran ‘Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet’:

 

Rhoi i mewn ar ddiwedd pwynt 1, ar ôl ‘nid’ gydag ystyriaeth hefyd ar gyfer atebion beicio a cherddwyr'.

   

Cynigir y cynnig fel y’i diwygiwyd fel a ganlyn:

 

 Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:

  

1.            Fel Aelodau Etholedig mae gennym ni gyfrifoldeb dros ein Dinas ac mae hynny’n cynnwys creu cymunedau cynaliadwy, gyda chynlluniau cynhwysfawr i gyflawni datrysiadau rhwydwaith, beicio, cerddwyr a ffyrdd sy'n gyraeddadwy.

 

2.            Mae Caerdydd yn wynebu tagfeydd traffig a rhwydwaith sylweddol oni bai y cymerir camau brys.

3.             Mae dogfennau strategol yn cyfeirio at y ffaith bod rhwydwaith ffyrdd Caerdydd wedi cyrraedd capasiti llawn yn 2010 ac wedi mynd dros gapasiti ers hynny. Mae hyn yn effeithio ar y rhai hynny sy’n byw ac yn gweithio yn y ddinas, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.

4.            Mae her ddifrifol yn wynebu Caerdydd o ran diffyg capasiti trafnidiaeth gyhoeddus wrth i’r ddinas dyfu yn ystod cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol a thu hwnt. Mae cynnydd o ran capasiti trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd yn hanfodol. Mae hyn o leiaf angen bod yn unol â’r rhagolygon twf sydd wedi'u cynnwys yn y CDLl, ac i baratoi ar gyfer twf mewn cymudwyr yn cyrraedd o awdurdodau cymdogol. 

  

Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i wneud y canlynol:

  

1.              Cynhyrchu Cynllun Gweithredu, yn seiliedig ar ddata trafnidiaeth a rhwydwaith cywir a diweddar er mwyn mynd i'r afael â'r broblem o ran trafnidiaeth gyhoeddus fel nad yw tagfeydd yn y dyfodol yn achosi i Gaerdydd ddod i stop, er budd y rhai hynny sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a’r rhai hynny nad ydynt, gan ystyried hefyd i atebion beicio a cherddwyr.

 

2.              Cyflwyno’r cynllun i’r Cyngor Llawn mewn 6 mis.

 

Diwygiad 2:     Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Caro Wild

 

Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Burke-Davies

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol

 

Pwynt 1 rhoi i mewn ar ôl rhwydwaith ‘ac atebion ffordd. Hefyd mae gennym gyfrifoldeb dros iechyd a lles cenedlaethau presennol a rhai y dyfodol.'

 

Pwynt 2 – dileu’r holl eiriau ar ôl Caerdydd a rhoi i mewn ‘mae’r Cyngor yn cydnabod bod twf ar draws y ddinas wedi rhoi pwysau difrifol ar ein system drafnidiaeth. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r goblygiadau iechyd difrifol o lygredd awyr a achosir yn bennaf gan gerbydau modur’. 

 

Pwynt 3 rhoi i mewn i’r llinell gyntaf ar ôl Caerdydd, dileu’r geiriau ‘dros ddiffyg’ a rhoi i mewn ‘i ddarparu _________addas'

 

Ychwanegu Pwynt 4 fel a ganlyn: -

 

4.    Yn ogystal â trafnidiaeth gyhoeddus rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu seilwaith wedi’i wella er mwyn teithio llesol yn y ddinas. Mae beicio a cherdded nid yn unig yn darparu dewisiadau amgen i deithiau car, ond gallant wella ein hiechyd a lles yn gyffredinol.

 

Ar ôl y geiriau ‘Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet’, dileu'r ddau bwynt a rhoi yn ei le

 

1.            Er mwyn dod â Phapur Gwyrdd ger bron a galluogi sgwrs lawn gydag ystod eang o rhanddeiliaid ar ddyfodol system drafnidiaeth Caerdydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

2.             

Cynigir y cynnig fel y’i diwygiwyd fel a ganlyn:

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol

 

1.    Fel Aelodau Etholedig mae gennym ni gyfrifoldeb dros ein Dinas ac mae hynny’n cynnwys creu cymunedau cynaliadwy, gyda chynlluniau cynhwysfawr i gyflawni datrysiadau ffyrdd a rhwydwaith sy'n gyraeddadwy.

2.     Hefyd mae gennym gyfrifoldeb dros iechyd a lles cenedlaethau presennol a rhai y dyfodol.

3.    Mae’r Cyngor yn cydnabod bod twf ar draws y ddinas wedi rhoi pwysau difrifol ar ein system drafnidiaeth. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r goblygiadau iechyd difrifol o lygredd awyr a achosir yn bennaf gan gerbydau modur. 

 

4.    Mae her ddifrifol yn wynebu Caerdydd o ran darparu opsiynau addas ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus wrth i’r ddinas dyfu yn ystod cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol a thu hwnt.

5.     Mae cynnydd o ran capasiti trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd yn hanfodol. Mae hyn o leiaf angen bod yn unol â’r rhagolygon twf sydd wedi'u cynnwys yn y CDLl, ac i baratoi ar gyfer twf mewn cymudwyr yn cyrraedd o awdurdodau cymdogol. 

6.    Yn ogystal â trafnidiaeth gyhoeddus rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu seilwaith wedi’i wella er mwyn teithio llesol yn y ddinas. Mae beicio a cherdded nid yn unig yn darparu dewisiadau amgen i deithiau car, ond gallant wella ein hiechyd a lles yn gyffredinol.

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet

 

1.            I ddod â Phapur Gwyrdd ger bron a galluogi sgwrs lawn gydag ystd eang o rhanddeiliaid ar ddyfodol system drafnidiaeth Caerdydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

2.                    

Gwahoddodd yr Arglwydd Faer drafodaeth ar y cynnig. Ar ddiwedd y drafodaeth gwahoddodd yr Arglwydd Faer y Cynghorydd Dianne Rees i grynhoi.  Wrth grynhoi, cadarnhaodd y Cynghorydd Rees, er budd consensws trosblaid, ei bod yn derbyn y ddau ddiwygiad fel y cynigiwyd gan y Cynghorydd Sandrey (Rhyddfrydwyr Democrataidd) a’r Cynghorydd Wild (Llafur). 

 

Cytunodd y Cyngor y byddai cynigwyr y cynnig a'r diwygiad yn cytuno ar eiriad terfynol y cynnig cyfunol ac y câi hyn ei adrodd yng nghofnodion y cyfarfod er mwyn eglurder i'r Aelodau.

 

Cymerwyd pleidlais ar y Cynnig cyfunol a CHARIWYD y Cynnig.

 

Mae’r Cynnig fel y’i cytunwyd yn darllen fel a ganlyn:  

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol

 

  1. Fel Aelodau Etholedig mae gennym ni gyfrifoldeb dros ein Dinas ac mae hynny’n cynnwys creu cymunedau cynaliadwy, gyda chynlluniau cynhwysfawr i gyflawni datrysiadau rhwydwaith, beicio, cerddwyr a ffyrdd sy'n gyraeddadwy.
  2.  Hefyd mae gennym gyfrifoldeb dros iechyd a lles cenedlaethau presennol a rhai y dyfodol.
  3. Mae’r Cyngor yn cydnabod bod twf ar draws y ddinas wedi rhoi pwysau difrifol ar ein system drafnidiaeth. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r goblygiadau iechyd difrifol o lygredd awyr a achosir yn bennaf gan gerbydau modur. 

 

  1. Mae her ddifrifol yn wynebu Caerdydd o ran darparu opsiynau addas ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus wrth i’r ddinas dyfu yn ystod cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol a thu hwnt.
  2.  Mae cynnydd o ran capasiti trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd yn hanfodol. Mae hyn o leiaf angen bod yn unol â’r rhagolygon twf sydd wedi'u cynnwys yn y CDLl, ac i baratoi ar gyfer twf mewn cymudwyr yn cyrraedd o awdurdodau cymdogol. 
  3. Yn ogystal â trafnidiaeth gyhoeddus rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu seilwaith wedi’i wella er mwyn teithio llesol yn y ddinas. Mae beicio a cherdded nid yn unig yn darparu dewisiadau amgen i deithiau car, ond gallant wella ein hiechyd a lles yn gyffredinol.

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet

 

  1. I ddod â Phapur Gwyrdd ger bron a galluogi sgwrs lawn gydag ystd eang o rhanddeiliaid ar ddyfodol system drafnidiaeth Caerdydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
  2.  

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 12/02/2018

Dyddiad y penderfyniad: 28/09/2017

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/09/2017 - Cyngor