Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc
Statws: Ar gyfer Penderfyniad
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniadau:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Peter Bradbury (Aelod
Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol, Cwmnïau Cydweithredol a
Mentrau Cymdeithasol), Malcolm Stammers (Rheolwr Gweithredol,
Hamdden a Chwarae), Jane Clemence (Swyddog Cymunedau Actif, Hamdden
a Chwarae) a Chris Mathews (Cymdeithas y Sgowtiaid) i’r
cyfarfod.
Gwahoddwyd yr Aelod Cabinet gan y Cadeirydd i wneud datganiad
ac ynddo dywedodd ei fod wedi chwarae rhan ers peth amser bellach
yn rhoi’r model newydd ar gyfer Chwarae Plant ar
waith. Mae Gr?p Sgowtiaid Pentwyn
1st wedi cyflwyno Adroddiad Adborth yn amlinellu eu
profiad o gymryd rheolaeth dros, a chynnal a chadw Canolfan Chwarae
Llanedern, oddi ar ddwylo’r Cyngor, cred ei fod yn asesiad
cywir o’r profiad a dylid talu sylw i’r wybodaeth a
ddarparwyd wrth symud ymlaen.
Cynigiodd Chris Mathews o Gymdeithas y Sgowtiaid ei farn
i’r Aelodau ar drosglwyddo’r Ganolfan i’r gr?p
Sgowtiaid gan nodi ei bod yn broses hir a diffyg eglurder yn y lle
cyntaf, ond unwaith i’r pwynt cyswllt yn y Cyngor gael ei
sefydlu bod pethau wedi gwella.
Hysbyswyd yr Aelodau bod yr adeilad i agor Ddydd Gwener.
Rhoddwyd cyflwyniad i’r Aelodau gan Malcolm
Stammers.
Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr
Aelodau:
- Gofynnodd yr Aelodau am gadarnhad at bwy y byddai Sefydliad y
Sgowtiaid yn troi petai yna broblem gyda’r adeilad ac
fe’u hysbyswyd bod yr adeilad wedi ei drosglwyddo gyda
Phrydles Atgyweirio Lawn, ond y gallent wneud cais am gyllid grant
pe byddent am wneud gwaith arall ar yr adeilad.
- Holwyd i’r aelodau os bu newid o gwbl yn y niferoedd
oedd yn defnyddio’r lle ac fe’u hysbyswyd ei bod hi ar
hyn o bryd yn rhy gynnar i ddweud, fodd bynnag roedd niferoedd wedi
disgyn; roedd yr ysbryd yn isel yn enwedig heb ganolfan i gyfarfod
ynddi.
- Rhagwelir y bydd y niferoedd yn dyblu gydag agor y
lleoliad newydd.
- Trafododd yr aelodau ddefnyddio adnoddau ysgolion/cymuned ac y
dylid gweithredu ysgolion ar ôl 4pm fel adnoddau cymunedol y
gallai’r cyhoedd eu defnyddio.
- Diweddarwyd yr aelodau ar drosglwyddiadau canolfannau chwarae
eraill:
- Trelái
- Mae Garddwyr Pentref Trelái ynghlwm
â’r trosglwyddiad hwn, yn dilyn derbyn cymorth
gyda’u cynllun busnes gan ACE. Mae penawdau’r telerau wedi eu cytuno ac
mae’r trosglwyddiad yn mynd rhagddo. Hysbyswyd yr Aelodau mai prydles fyddai hon yn
hytrach na Throsglwyddiad Ased Cymunedol;
- Glan-yr-afon: Cymdeithas Ddatblygu De Glan-Yr-Afon sydd wedi bod ynghlwm
â’r trosglwyddiad hwn. Mae Penawdau’r Telerau wedi eu cytuno ond mae
mwy o waith ar ddiwydrwydd dyladwy yn mynd rhagddo ar hyn o
bryd;
- Adamsdown:
- Roedd Seren yn y Gymuned wedi mynegi diddordeb
cychwynnol ond heb fynd ar ei ôl wedyn. Gobeithir y bydd cyfleoedd eraill yn codi yn yr ardal
gyda’r datblygiadau ehangach sy’n digwydd
yno.
- Sblot: Gofynnwyd i Cymunedau’n Gyntaf gynorthwyo’r rhai
oedd ynghlwm wrth y cais hwn.
- Llanrhymni:
- Mae The Foxy Club wedi mynegi diddordeb yn
ddiweddar ac mae hyn dan ystyriaeth.
- Grangetown: Cytunwyd ar Gynllun Busnes gyda meithrinfa
Grangetown, gyda rhywfaint o fuddsoddiad cyfalaf i’r
ganolfan.
Bydd defnydd deuol yma,
ysgol feithrin gyda’r dydd a defnydd cymunedol gyda’r
nos.
Mae posibilrwydd hefyd o
adeiladu estyniad.
- Holodd yr Aelodau am y sefyllfa bresennol o safbwynt y
gefnogaeth oedd ar gael yn ystod y cyfnod pontio ac fe’u
hysbyswyd bod cyllid ar gael ar gyfer 3 Swyddog Datblygu Cymunedol
ond bod hwnnw wedi dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2016. Roedd
adnoddau wedi eu darparu i alluogi rhywfaint o gefnogaeth i
barhau.
- Mynegodd yr Aelodau eu pryder fod y cyllid bellach
wedi dod i ben cyn trosglwyddo’r holl Gynlluniau Chwarae gan
nodi fod angen cefnogaeth ar y broses bontio o hyd.
CYTUNWYD – Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn
ysgrifennu at yr Aelodau Cabinet, y Cyfarwyddwyr a’r
swyddogion perthnasol yn diolch iddynt am fynychu’r ar 18
Hydref 2016 ac i gyfleu arsylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd
ymlaen.
Dyddiad cyhoeddi: 15/02/2017
Dyddiad y penderfyniad: 18/10/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/10/2016 - Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc
Dogfennau Cefnogol: