Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniadau:
- Y Cynghorydd Jacobsen – 117 llofnod gan blant a rhieni
yn Llandeyrn, yn galw ar y Cyngor i gadw’r gwasanaeth bysiau
ysgol am ddim i Ysgol Uwchradd Llanisien
- Y Cynghorydd Ashley Wood - 29 llofnod yn galw ar y Cyngor i
gyflwyno mesurau diogelwch ar Ffordd Llantarnam er mwyn lleihau
cyflymderau cerbydau.
- Y Cynghorydd Philippa Hill-John – 75 o lofnodion yn galw
ar y Cyngor i ddynodi rhan ddeheuol Palace Road fel ardal ar gyfer
parcio i breswylwyr yn unig yn unol â’r cynllun a
fabwysiadwyd ar gyfer gweddill Palace Road.
- Y Cynghorydd Sandrey – 203 o lofnodion i’w
hychwnaegu at ddeiseb flaenorol a gyflwynwyd i’r Cyngor ar 20
Gorffennaf 2017 gan alw ar y Cyngor i gymryd camau gweithredu ac
ymdrin â’r materion o barcio peryglus yn Circle Way
West
- Y Cyngorydd Ebrahim – o 35 o breswylwyr a lesddeiliaid
datblygiad preswyl Century Wharf yn Dumballs Road Butetown, yn
annog Cyngor Caerdydd i wireddu eu rhwymedigaeth gyfreithiol o dan
rheolaeth cynllunio a mynd yn groes i A171a Deddf Cynllunio Gwlad a
Thref 1990 ar osod eiddo yn fasnachol sy’n effeithio ar
hawliau’r preswylwyr i fwynhau eu hannedd mewn
heddwch. Mae’n rhaid i breswylwyr
ymdopi ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y penwythnosau oherwydd
fflatiau sy’n cael eu gosod yn fasnachol ar gyfer nosweithiau
gwrywod a chywennod.
- Y Cynghorydd Ebrahim – 35 o lofnodion gan breswylwyr
Edward England yn galw ar y Cyngor i fynd i’r afael ag
ymddygiad gwrthgymdeithasol (cyffuriau ac alcohol) yn Rhodfa Lloyd
George.
- Y Cynghorydd Congreve – 28 o lofnodion i’w
hychwanegu ar ddeiseb flaenorol a gyflwynwyd i’r Cyngor ar 20
Gorffennaf 2017, yn galw ar y Cyngor i wneud Cylchfan
Rhydypenau/Fidlas/Llandennis a Heathwood Road yn fwy diogel gyda
marciau rheoli lonydd dynodedig y ffordd clir a syml
- Y Cynghorydd Owen Jones – 425 o lofnodion yn annog y
Cyngor i gadw Lawnt Fowlio Howard Gardens, Adamsdown fel man agored
i’r gymuned
- Y Cynghorydd Carter – 248 o lofnodion i’w
hychwanegu at ddeiseb flaenorol a gyflwynwyd i'r Cyngor ar 20
Gorffennaf 2017, yn galw ar y Cyngor i gadw'r gwasanaeth bysiau
ysgol am ddim i Ysgol Uwchradd Llanisien
Dyddiad cyhoeddi: 12/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 28/09/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/09/2017 - Cyngor