Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo’r cynnig i sefydlu Tasglu Cydraddoldeb Hiliol gyda’r amcanion a nodir ym mharagraff 16 yr adroddiad
2. cytuno i benodi’r Cyng. Saeed Ebrahim yn Gadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol.
3. Dirprwyo awdurdod i Bennaeth Perfformiad a Phartneriaethau, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol ac Arweinydd y Cyngor a gyda chyngor gan y Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, i gwblhau Cylch Gorchwyl manwl ar gyfer y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, i’w gadarnhau yng nghyfarfod cychwynnol y Tasglu.
4. Dirprwyo awdurdod i Bennaeth Perfformiad a Phartneriaethau, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, i gynnal proses benodi gyhoeddus ar gyfer aelodau’r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol.
5. Dirprwyo awdurdod i Bennaeth Perfformiad a Phartneriaethau, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, i ddechrau ymarferiad ymgynghori cyhoeddus i lywio’r blaenoriaethau cychwynnol ar gyfer rhaglen waith y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol.
Dyddiad cyhoeddi: 17/07/2020
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/07/2020 - Cabinet
Dogfennau Cefnogol: