Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Mae Fields in Trust, y National Playing Fields Association gynt, mewn partneriaeth â'r Lleng Prydeinig, wedi datblygu menter ledled y DU i goffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf ac i anrhydeddu'r rheini a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro. Mae'r fenter yn galw ar dirfeddianwyr i gymryd rhan drwy neilltuo mannau hamdden, sy'n cynnwys cofeb ryfel fel meysydd y canmlwyddiant drwy weithred anelusennol. Ceisir cael cymeradwyaeth yr adroddiad i neilltuo gerddi Alexandra yn ward Cathays a gerddi'r Grange yn ward Grangetown.
PENDERFYNWYD:
1) cymeradwyo mewn egwyddor i neilltuo’r safleoedd y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad ac yn amodol ar ymgynghoriad.
2) Dirprwyo’r awdurdod i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd i hwyluso'r broses ymgynghori â'r rhanddeiliaid ac aelodau ward lleol er mwyn cwblhau'r manylion gwaredu terfynol, cyn unrhyw hysbyseb.
3) hysbysebu gwaredu arfaethedig y safleoedd a nodwyd yn yr adroddiad yn unol ag adran berthnasol Deddf Llywodraeth Leol 1972 a bod adroddiad ar y canlyniadau mewn cyfarfod i’r dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 17/12/2018
Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/12/2018 - Cabinet
Effeithiol O: 29/12/2018
Dogfennau Cefnogol: