Manylion y penderfyniad

Ymateb i Gynnig y Cyngor: Polisi Drafft ar gyfer Plastigau Untro a Chynllun Gweithredu i Leihau'r Defnydd o Blastigau Untro ar Safle Cyngor Caerdydd a Chefnogi Gostyngiad yn eu Defnydd Ledled Caerdydd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Mewn ymateb i gynnig plastig untro a gyflwynwyd i’r Cabinet; i) i weithio gyda phartneriaid ar y Cynnig Dim Chwistrelli; ii) i weithio gyda D?r Cymru ar Orsafoedd Ail-lenwi iii) ymchwilio i farchnadoedd ailgylchu nad oedd yn ailgylchadwy o’r blaen. Cynhyrchu adroddiad yn amlinellu cynlluniau erbyn Hydref 2018 i leihau eitemau untro ar eiddo’r cyngor megis cwpanau, deunydd lapio, bagiau ac ati.

 

Mae’r adroddiad yn amlinellu cefndir plastigau untro a meysydd pryder i’r Cyngor. Mae’r adroddiad yn amlinellu cynllun gweithredu i ddeall a lleihau plastigau untro ledled yr Awdurdod achynnig polisi drafft er ymgynghoriad pellach ar ymrwymiad y Cyngor i leihau plastigau untro ac amddiffyn ein hamgylchedd.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo’r polisi plastig untro drafft a’r cynllun gweithredu cysylltiedig ar gyfer ymgynghoriad ag Aelodau a nodi y caiff polisi terfynol ei gyflwyno i’r Cabinet ei gymeradwyo ar ôl yr ymgynghoriad.

 

Pobl yr ymgynghorir รข hwy

Byddymgysylltu ac ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda phrif randdeiliaid gan gynnwys grwpiau, dinasyddion, cyflenwyr a’r Cyngor o ran y polisi drafft.

 

Dyddiad cyhoeddi: 15/11/2018

Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/11/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 29/11/2018

Dogfennau Cefnogol: