Manylion y penderfyniad

Ysgolion yr 21ain Ganrif (Band B: Ailddatblygu Ysgolion Cantonian, Woodlands a Riverbank.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr ystyriodd y Cabinet adroddiad yn nodi cynlluniau â blaenoriaeth y Cyngor yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B. Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymgynghori ar y cynigion i ddatblygu’r Safle Ysgol Uwchradd Cantonian presennol, yn unol â chynlluniau â blaenoriaeth Band B.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.                   Awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar gynigion i:

 

·         Adnewyddu adeiladu Ysgol Uwchradd Cantonian gydag adeiladau newydd ar yr un safle gan ehangu’r ysgol o chwech dosbarth mynediad (6DM) i wyth (8DM) gyda darpariaeth chweched dosbarth ar gyfer 250 o ddisgyblion;

 

·         Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) ar gyfer dysgwyr â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth (CSA), dan fantell Ysgol Uwchradd Cantonian o 20 lle i 30 lle mewn adeilad pwrpasol yn adeiladau newydd  yr ysgol;

 

·         Trosglwyddo Ysgol Arbennig Woodlands i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 140 lle i 240 lle mewn adeilad newydd;

 

·         Trosglwyddo Ysgol Arbennig Riverbank i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 70 lle i 140 lle mewn adeilad newydd.

 

2.         Nodi y daw swyddogion ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn ceisio awdurdod i fynd ati i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Pobl yr ymgynghorir รข hwy

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal gydag Aelodau, y gymuned leol, staff, Llywodraethwyr a’r ysgolion, ysgolion lleol eraill, disgyblion a rhanddeiliaid eraill yn unol â’r gofynion statudol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 13/12/2018

Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/12/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 29/12/2018

Dogfennau Cefnogol: