Manylion y penderfyniad

Comisiynu Gofal Preswyl a Chaffael Gwasanaethau Gofal Cartref

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Mae’r trefniadau cytundebol presennol a ddefnyddir gan Gyngor Caerdydd i gomisiynu gofal preswyl yn dod i ben ar 3 Tachwedd 2018. Ym mis Ionawr 2017, ceisiodd y Gwasanaethau Cymdeithasol gymeradwyaeth y Cabinet i fynd i mewn i drefniadau cytundebol newydd o 4 Tachwedd 2018 ymlaen. Byddai’r trefniadau newydd yn defnyddio’r un dull cyffredinol ag sydd ar waith ar hyn o bryd, heb lawer o newidiadau sylweddol o ran sut roedd gofal yn cael ei gomisiynu na sut fyddai’r trefniadau cytundebol yn gweithio.

Diben yr adroddiad yw ceisio cytundeb i derfynu’r cynigion yn Adroddiad Cabinet Ionawr 2018 a chymryd dull gwahanol.

Bydd yr adroddiad a gyflwynwyd ym mis Medi 2018 yn nodi’r weledigaeth ar gyfer gofal preswyl yng Nghaerdydd, yn disgrifio sut mae hyn yn berthnasol i ddulliau eraill o ddarpariaeth a chymorth cymunedol a sut fydd yn cael ei gyflawni. Bydd yr adroddiad hefyd yn nodi sut bydd y trefniadau cytundebol presennol yn cael eu datrys, yn seiliedig ar gyngor cyfreithiol a dderbyniwyd a’r angen i sicrhau parhad y ddarpariaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth a sefydlogrwydd i ddarparwyr gofal.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1)   awdurdodi swyddog i beidio â gweithredu cynnwys Adroddiad y Cabinet a gymeradwywyd yn Ionawr 2018;

 

2)   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr y Gyfraith a Llywodraethiant, i ddelio gyda threfniadau dros dro ar gyfer comisiynu gofal cartref i oedolion tan fis Tachwedd 2020 a’r holl faterion cysylltiedig gan gynnwys technoleg ategol sydd ei angen  i danseilio’r APL, os ymestynnir, a’r prosesau sydd eu hangen i dalu darparwyr gofal cartref, nyrsio a phreswyl am y gwasanaethau y maent yn eu darparu;

 

3)   y caiff adroddiad pellach ei gyflwyno i’r Cabinet yn ceisio cymeradwyaeth am y model arfaethedig ar gyfer comisiynu gofal cartref y cynigir y bydd yn dod i rym o fis Tachwedd 2020

Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/09/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/09/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 03/10/2018

Dogfennau Cefnogol: