Manylion y penderfyniad

Gwaredu Tir yn Heol Wedal

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniad:

Ni chyhoeddir Atodiadau 2 a 3 yr adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo cynnwys yr adroddiad fel sylfaen ymateb y Cabinet i benderfyniad y Pwyllgor Craffu PRAP i gyfeirio’n ôl Benderfyniad Swyddogion at y Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd.

 

2.   Awdurdodi gwaredu tir y Cyngor yn Heol Wedal sydd wedi’i ddangos gyda llinell goch ar y cynllun safle yn Atodiad 1 yr adroddiad trwy gyfrwng trafodiad oddi ar y farchnad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar y telerau wedi’u nodi yn Atodiad 3 sy’n gyfrinachol ac ar sail y gwerth marchnad wedi’i bennu gan adroddiad y gwerthwr annibynnol sydd wedi’i atodi at Atodiad 2 sy’n gyfrinachol

 

Dyddiad cyhoeddi: 18/05/2018

Dyddiad y penderfyniad: 17/05/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/05/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 31/05/2018

Dogfennau Cefnogol: