Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Mae’r project Hybiau wedi bod yn llwyddiannus iawn, gan uno gwasanaethau’r cyngor a gwasanaethau partner i gynnig darpariaeth leol gynhwysfawr yn seiliedig ar anghenion yr ardal.
Bydd yr adroddiad yn gosod y camau nesaf ar gyfer datblygu'r Hybiau a bydd yn cynnwys:
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo’r dull o ddatblygu Hybiau Llesiant Cymunedol yng ngogledd a gorllewin y ddinas a bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr Pobl a Chymunedau i fynd â hyn yn ei flaen mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau.
Bydd unrhyw gynigion sy'n cynnwys newid sylweddol i adeiladau cyfredol yn amodol ar adroddiad cabinet ar wahân.
2. cytuno i’r cynigion ar gyfer dull newydd o ymgysylltu â’r gymuned trwy gyflwyno Swyddogion Cynhwysiant Cymunedol sy’n aros yn yr Hyb
3. cytuno i raglen grant ar gyfer Iechyd a Llesiant a Chlybiau Gwaith Cartref fel y nodir yn yr adroddiad
4. cytuno i gynigion i wella gwasanaethau a gwella cydweithio yn Hyb y Llyfrgell Ganolog
5. cymeradwyo gwaith i ddatblygu gwasanaetha llyfrgell ymhellach gan adeiladu ar arfer gorau i gyflwyno gwasanaethau llyfrgell o safon a digwyddiadau ledled y ddinas.
Dyddiad cyhoeddi: 18/05/2018
Dyddiad y penderfyniad: 17/05/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/05/2018 - Cabinet
Effeithiol O: 31/05/2018
Dogfennau Cefnogol: