Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Mae’r cynnig yn fenter Llywodraeth Cymru newydd fydd yn ariannu 17.5 awr o ofal plant yn ystod y tymor a 30 awr ar gyfer 9 wythnos o wyliau ysgol i blant 3 a 4 oed y mae eu rhieni yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd incwm a chyflogaeth.Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i'r cynnig gael ei gyflwyno'n rhannol, gan dargedu nifer o wardiau a phlant, yn ehangu tan 2020/21.
PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo Caerdydd fel Awdurdod Lleol Gweithredwr Cynnar ar gyfer y cynnig gofal plant 30 awr.
2. cymeradwyo’r rhesymeg a nodir ym mharagraffau 17-24 o’r adroddiad fel y dull cytunedig i adnabod y wardiau fydd yn cael y cynnig, wrth i gyllid ddod ar gael;
dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Addysg i weithredu cynnig y rhesymeg a nodir ym mharagraffau 17-24 o’r adroddiad
Dyddiad cyhoeddi: 19/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 19/04/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/04/2018 - Cabinet
Effeithiol O: 02/05/2018
Dogfennau Cefnogol: