Manylion y penderfyniad

Cynllun Corfforaethol 2018 - 2021

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas y Cynllun Corfforaethol 2018 - 2021 er cymeradwyaeth y Cyngor.  Mae’r Cynllun yn cynrychioli dyheadau ac uchelgeisiau’r weinyddiaeth ar gyfer y brifddinas, a phobl Caerdydd a Chymru. Y Cynllun yw gweledigaeth a fframwaith polisi a chyflawni'r Cyngor wedi'i roi yng nghyd-destun sicrhau bod pawb yn elwa ar lwyddiannau'r ddinas; pwysau parhaus ar wasanaethau a chyllidebau sy'n lleihau; a'r uchelgais i gael cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

 

Ochr yn ochr â Chynllun Busnes y Fargen Ddinesig a'r Cynllun Llesiant, mae’r Cynllun Corfforaethol yn nodi’n glir sut fydd perfformiad y ddinas a’r rhanbarth yn cael ei fesur, gan adlewyrchu’r aliniad strategol rhwng y Cyngor a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r saith amcan llesiant a rennir, a’r ddealltwriaeth gyffredin o’r heriau y mae’r ddinas yn eu hwynebu.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad a’r Panel Perfformiad a arweiniwyd gan y Cynghorydd Walker oedd wedi ymgysylltu â datblygiad y Cynllun ers pedwar mis, a oedd wedi rhoi adborth adeiladol ar y strwythur, y cynnwys a'r targedau perfformiad.

 

Cafodd y Cynllun Corfforaethol ei eilio gan Ddirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau, y Cynghorydd Merry, wnaeth gysylltu dyheadau â’r cynigion cyllidebol a gymeradwywyd ym mis Chwefror 2018 a blaenoriaethau’r weinyddiaeth o ran creu cyfleoedd; taclu anghydraddoldebau, tlodi ac iechyd gwael, gweithredu ar ddigartrefedd ac amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

 

Dywedodd yr Arglwydd Faer fod diwygiad i’r adroddiad yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 24a.  Rhoddodd yr Arglwydd Faer gyfle i’r Cynghorydd Boyle gynnig y diwygiad.

 

Roedd y diwygiad yn galw i’r argymhelliad gael ei ohirio tan cyfarfod nesaf y Cyngor i alluogi'r Cabinet i gyflwyno cynllun diwygiedig fyddai'n cynnwys cynigion a chamau addas ar lefel leol â'r nod o helpu i fynd ar ôl anghydraddoldebau iechyd sylweddol, gwahaniaethau mewn disgwyliad oes ac i adlewyrchu ar y cynnig a gyflwynwyd i'r Cyngor gan y Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol ar unigedd mewn gwahanol gymunedau yng Nghaerdydd. 

 

Eiliodd y Cynghorydd Berman y diwygiad yn atgyfnerthu’r materion sylfaenol ynghylch anghydraddoldebau iechyd gan gynnwys graddfeydd marw a disgwyliad oes rhwng rhannau cyfoethog a thlawd yn y ddinas; a’r pwysigrwydd o weithio gyda’r rhwydweithiau iechyd ar faterion mawr megis hyrwyddo iechyd a thaclo gordewdra.

 

Cyn cynnal pleidlais ar y diwygiad, dechreuodd yr Arglwydd Faer ddadl. Yn ystod y ddadl cyflwynwyd sylwadau am uchelgeisiau'r Cynllun Corfforaethol, yr hyn sydd dal i'w gyflawni; yr heriau o ran anghydraddoldebau a thlodi; cryfhau gwasanaethau ataliol a chymorth; pwysigrwydd cyfleoedd addysg a chyflawni; a'r gwaith sy'n cael ei wneud gyda phartneriaid ar y saith amcan.

 

Rhoddodd yr Arglwydd Faer gyfle i’r Arweinydd i ymateb i’r pwyntiau a drafodwyd.

 

Galwodd yr Arglwydd Faer am bleidlais ar y diwygiad fel y cyflwynodd y Cynghorydd Boyle ef.

 

PASIWYD y bleidlais ar y diwygiad. 

 

Rhoddodd yr Arglwydd Faer gyfle i’r Cynghorydd Boyle i grynhoi.

 

Galwodd yr Arglwydd Faer am bleidlais ar yr argymhelliad diwygiedig.

 

COLLWYD y bleidlais ar yr argymhelliad diwygiedig.

 

PENDERFYNWYD - Ni gymeradwywyd y Cynllun Corfforaethol a chafodd ei atgyfeirio’n ôl i’r Cabinet.

 

Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2018

Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/03/2018 - Cyngor

Dogfennau Cefnogol: