Manylion y penderfyniad

DEISEBAU

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

1.    Y Cynghorydd Carter - 127 o lofnodion yn galw ar y Cyngor i ddychwelyd cyn-safle Pentwyn Arms i bobl Pentwyn, drwy ei droi yn adeilad cymunedol.

2.    Y Cynghorydd Wood – 43 llofnod arall yn galw ar y Cyngor i stopio’r toriadau i ganolfannau hamdden (i’w hychwanegu at ddeiseb y Cynghorydd Naughton a gyflwynwyd yn ystod cyfarfod mis Tachwedd).

3.    Y Cynghorydd Gordon - 239 o lofnodion yn galw ar y Cyngor i egluro pam eu bod nhw wedi rhoi caniatad cynllunio i ddymchwel yr adeilad tirnod etifeddiaeth hwn o oes Fictoria (The Rise, Penhill Road, Caerdydd) gan eu bod nhw'n teimlo y dylai'r adeilad hanesyddol gael ei gadw fel nodwedd lleol pwysig. 

4.    Y Cynghorydd Congreve – 53 o lofnodion yn gofyn i’r Cyngor gyflwyno cyfleusterau parcio trwydded yn unig rhwng tai 12 - 48 Clearwater Way, Caerdydd.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2018

Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/01/2018 - Cyngor