Manylion y penderfyniad

Caffael Gofal Cartref

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Mae’r Cyngor yn caffael pecynnau gofal cartref gan ddefnyddio System Brynu Ddeinamig (SBDd).Mae’r contract presennol a’r trefniadau ar gyfer y gwaith caffael hwn yn dod i ben ar 31 Tachwedd 2018. Bydd angen gwneud trefniadau newydd erbyn y dyddiad hwn.

Penderfyniad:

Caffael Gofal Cartref

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     y dylid awdurdodi’r dull cyffredinol arfaethedig i sicrhau Rhestr Darparwyr Cymeradwy Ddeinamig ar gyfer gwasanaethau gofal cartref fel y nodir yn yr adroddiad; a

 

2.      rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a'r Gwasanaethau Cyfreithiol:

 

a)i ymdrin â phob agwedd ar gaffael all gynnwys:

 

              i.   cymeradwyo'r gwaith o sefydlu Rhestr Ddeinamig o Ddarparwyr Cymeradwy

             ii.   cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso tendr i sefydlu’r rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy

            iii.   penodi’r darparwyr newydd i’r rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy ar ôl iddynt fwrw’r meini prawf dethol a nodir gan y Cyngor

            iv.   dirprwyo mwy o awdurdod i ddyfarnu contractau sydd eu hangen yn ystod bywyd y rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy, bydd dirprwyaethau pellach yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor

             v.   ymdrin â phob mater cysylltiedig;

 

b)         awdurdodi unrhyw broses gaffael gofynnol i gael y dechnoleg gysylltiedig sydd ei hangen i gefnogi'r rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy, hyd at a chan gynnwys dyfarnu'r contract

Dyddiad cyhoeddi: 18/01/2018

Dyddiad y penderfyniad: 18/01/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/01/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 31/01/2018

Dogfennau Cefnogol: