Rashpal Singh

Profile image for Rashpal Singh

Cyfarfodydd Pwyllgor

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Rashpal Singh yn Seicotherapydd / Cwnselydd cymwysedig ac achrededig. Mae wedi ymarfer yn y maes lles, cwnsela, iechyd galwedigaethol a chymorth i gyflogeion m y 25 mlynedd diwethaf. Mae wedi llwyddo i sefydlu ei bractis ei hun lle mae'n parhau i ddarparu gwasanaeth cwnsela, hyfforddi, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, lle gall person o unrhyw gefndir gael cymorth cyfrinachol.  Mae Rashpal yn arbenigo ym meysydd straen, gorbryder, iselder, trawma ac mae'n cynnwys cwnsela perthynas, straen sy'n gysylltiedig â gwaith i gam-drin domestig/corfforol neu seicolegol. Mae ei restr cleientiaid bresennol yn cynnwys meddygon teulu, ymgynghorwyr, seiciatryddion, cwnselwyr, seicolegwyr a gweithwyr, rheolwyr a chyfarwyddwyr busnesau.  Bu'n Gadeirydd ac yn un o Ymddiriedolwyr y Sefydliad Lles am y 5 mlynedd diwethaf ac mae wedi bod yn Ynad Heddwch am y 23 mlynedd diwethaf.  Penodwyd Rashpal yn Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a Moeseg ar 23 Mehefin 2022.