Diben y Pwyllgor Safonau a Moeseg yw:
(a) |
Monitro a chraffu ar safonau moesegol yr Awdurdod, ei Aelodau, cyflogeion, ac unrhyw ddarparwyr cysylltiedig gwasanaethau’r Awdurdod, ac adrodd i’r Cyngor ar unrhyw faterion sy’n peri pryder.
|
(b) |
Cynghori’r Cyngor ar gynnwys ei God Moesegol a diweddaru’r Cod fel sy’n briodol.
|
(c) |
Cynghori’r Cyngor o ran gweithredu’r Cod yn effeithiol gan gynnwys materion fel hyfforddi Aelodau a chyflogeion ar ddefnyddio’r Cod.
|
(d) |
Ystyried a phenderfynu ar ganlyniad cwynion lle mae Cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig wedi gweithredu’n groes i’r Cod yn unol â’r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Safonau, gan gynnwys gosod unrhyw gosbau sydd ar gael i’r Pwyllgor.
|
(e) |
Goruchwylio a monitro gweithdrefnau chwythu’r chwiban y Cyngor ac ystyried materion moesegol sy’n codi o gwynion dan y weithdrefn a chwynion eraill.
|
(f) |
Rhoi neu wrthod ceisiadau am drwyddedau mewn perthynas â lles aelodau dan God Ymddygiad Aelodau yn unol â’r darpariaethau statudol perthnasol.
|
(g) |
Cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â chynghorau cymuned sydd wedi’u lleoli yn ardal y Cyngor ac aelodau’r cynghorau cymuned hynny sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
|
(h) |
Argymell i’r Cyngor a’r Cabinet unrhyw ganllawiau ychwanegol o ran materion cywirdeb.
|
(i) |
Gwrando a phenderfynu ar unrhyw gwynion o ran camymddwyn gan Aelodau neu adroddiad y Swyddog Monitro, un ai trwy atgyfeiriad gan yr Ombwdsmon neu fel arall. |
(j) |
Argymell darparu, i’r Swyddog Monitro, adnoddau y bydd ef neu hi eu hangen i gyflawni ei ddyletswyddau ef neu hi.
|
|
Bydd angen i holl Aelodau’r Pwyllgor gyflawni hyfforddiant perthnasol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n briodol.
|
Clerc: Mandy Farnham.
Ffôn: 02920 872618
E-bost: Mandy.Farnham@caerdydd.gov.uk