Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth yngl?n â’r hyn y mae cyrff penderfynu'r cyngor wedi'i benderfynu yn ddiweddar.
Neu gallwch ymweld â thudalen penderfyniadau swyddogion ar gyfer gwybodaeth am benderfyniadau y mae swyddogion penodol y cyngor wedi'u.
Gallwch hefyd edrych ar grynoadau o’n penderfyniadau.
Cofrestrau Penderfyniad / nid Rhybuddion yn cael eu cyfieithu fel mater o drefn, Os oes angen fersiwn Cymraeg cysylltwch รข'r Swyddfa Cabinet ar 02920 872396
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/11/2018
Effeithiol O: 14/11/2018
Penderfyniad:
Dull Comisiynu ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant Dechrau’n Deg – Ceisio Awdurdod Dirprwyedig i Fwrw Ymlaen ac Agor y Tendr
CYTUNWYD:
1. cymeradwyo corff yr adroddiad
2.
3. cymeradwyo testun hysbysiad OJEU i gychwyn y caffael;
4. Cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso cyffredinol a fanylir yng nghorff yr adroddiad.
5. Cymeradwyo dogfennaeth y tendr drafft (sy’n atodol i Atodiad 2), sef Manyleb y Gwasanaeth a ffurf y contract ar y ddealltwriaeth y gallai’r tîm project wneud addasiadau cyhyd ag nad yw’n gwneud newidiadau sylweddol i’r dogfennau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/11/2018
Effeithiol O: 14/11/2018
Penderfyniad:
CYTUNWYD: y canlynol
1. Y broses gaffael arfaethedig ar gyfer gwasanaethau llety a chymorth i bobl ifanc, er mwyn darparu amrywiaeth o lety a gwasanaethau cymorth fel y'u nodir yng nghorff yr adroddiad.
2. Cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso arfaethedig fel y manylir arnynt yng nghorff yr adroddiad hwn
3. Cymeradwyir cychwyn y broses gaffael a chyhoeddi hysbysiad yr OJEU
4. Cymeradwyo estyniad y contractau cyfredol tan 12fed Mai 2019
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/11/2018
Effeithiol O: 13/11/2018
Penderfyniad:
Mae Atodiad 1 (Goblygiadau Cyfreithiol) yn eithriedig o gael ei gyhoeddi yn dilyn darpariaethau Atodlen 12A Rhan 4 paragraff 16 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
CYTUNWYD:
1. i gymeradwyo ymestyn y Rhestr Darparwyr Achrededig (APL) bresennol, sy’n perthyn i ddarparu Gwasanaethau Gofal Cartref, o 4 Tachwedd 2018 tan 3 Tachwedd 2020;
2. cymeradwyodyfarnu contractau unigol a osodir o dan yr APL yn uniongyrchol lle y mae’r pecyn gofal cartref unigol yn ofynnol y tu hwnt i 3 Tachwedd 2018 gan ystyried anghenion y defnyddiwr gwasanaethau unigol, a chyhyd â na fydd tymor estynedig y contractau unigol yn mynd y tu hwnt i 3rd Tachwedd 2020;
3. awdurdodi’rCyngor i wneud cytundeb penodol o ran fframwaith trydydd parti presennol, sef YPO (Cyfeirnod Atebion Categori Dynamig 723);
4. (yn amodol ar gymeradwyo’r penderfyniad a argymhellwyd iii)) Awdurdodi dyfarnu contract penodol i Adam i ddarparu Atebion Categori Dynamig yn unol â’r weithdrefn a restrir yn y fframwaith YPO, fel y rhestrir ymhellach yng nghorff yr adrodd, am gyfnod cychwynnol o 4 blynedd gydag opsiwn i ymestyn ar ôl cyfnod pellach o hyd at 2 flynedd;
5. Nodi bod y Cyngor yn ymgynghori ar hyn o bryd â’i holl Ddarparwyr Gofal Cartref parthed i) codiadau ffioedd arfaethedig am y cyfnod 4 Tachwedd 2018 tan 31 Mawrth 2019 a ii) yr ymagwedd i godiadau ffioedd trwy adolygiadau prisoedd blynyddol o 1 Ebrill 2019. Bydd canlyniad y broses ymgynghori yn destun adroddiad pellach.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/11/2018
Effeithiol O: 13/11/2018
Penderfyniad:
I ddyfarnu cytundebau fframwaith gyda Neal Soils LTD for:
• Lot 1 ar gyfer ailbrosesu Rwbel;
• Lot 2 ar gyfer ailbrosesu Teiars;
• Lot 3 ar gyfer ail-brosesu UPVC;
• Lot 7 ar gyfer ailbrosesu Plastigau Caled
I ddyfarnu’r cytundeb fframwaith canlynol gyda Roy Hatfield LTD
Lot 8 ar gyfer ailbrosesu bwrdd plastr
Hepgor y lotiau canlynol o’r caffaeliad presennol
• Lot 4 - Carpedi
• Lot 5 Matresi
• Lot 6 Paent
Ac mewn perthynas â 2.1
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/11/2018
Effeithiol O: 13/11/2018
Penderfyniad:
Nidyw’r adroddiad neu’r rhan i’w gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am y disgrifiad yn Atodlen B ac Atodlen C Rhan 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
CYTUNWYD:
1. i gymeradwyo’r broses gaffael arfaethedig ar gyfer Gwasanaethau Byw â Chymorth yn T? Cornel, fel y’i gosodir yng nghorff yr adroddiad;
2. i gymeradwyo’r meini prawf arfarnu arfaethedig fel y’i disgrifir yng nghorff yr adroddiad;
3. i gymeradwyo’r ddogfennaeth caffael fel y’i hatodwyd i Atodlen A; a
4. dosbarthu’r hysbysiad OJEU I ddechrau’r broses gaffael yn ffurfiol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/11/2018
Effeithiol O: 13/11/2018
Penderfyniad:
CYTUNWYD:
1. i nodi’r diweddariad ar y Fframwaith arfaethedig ar gyfer darparu gwaith toi arbenigol
2. i gymeradwyo cwmpas diwygiedig y fframwaith arfaethedig, y cyfeirir ato fel Fframwaith B ac fel y’i gosodir yng nghorff yr adroddiad
3. i gymeradwyo’r Weithdrefn Gyfyngedig i’w dilyn
4. i gymeradwyo’r meini prawf arfarnu cyffredinol sef 60% cost a 40% ansawdd, a
5. chymeradwyo dechrau’r broses gaffael trwy ddosbarthu’r hysbysiad a dogfennau caffael OJEU..
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/11/2018
Effeithiol O: 13/11/2018
Penderfyniad:
CYTUNWYD: bod cynnig Undeb Rygbi Cymru i leihau maint Bwrdd Cyfarwyddwr Stadiwm y Mileniwm ccc (o unarddeg) i saith Cyfarwyddwr; trwy leihau nifer y Cyfarwyddwyr i’w penodi gan Gyngor Caerdydd (o bump) i dri gael ei gytuno, gyda lleihad cyfatebol o ran nifer y Cyfarwyddwyr i’w penodi gan Undeb Rygbi Cymru (o chwech) i bedwar.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/10/2018
Effeithiol O: 07/11/2018
Penderfyniad:
Nidyw’r adroddiad neu’r rhan i’w gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am y disgrifiad ym mharagraff 16, Rhan IV Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
CYTUNWYD:
1. y caiff tendrau eu gwahodd gan gyflenwyr o fewn Fframwaith de-ddwyrain Cymru ar gyfer y contract i adeiladu’r Uwch briffordd Beicio yn Heol Senghennydd . Prisiwyd yn £1.070 miliwn
2. y caiff y meini prawf arfarnu tendr arfaethedig sef 70% cost a 30% ansawdd eu cymeradwyo
3. y caiff yr ymarfer tendro ei wneud yn amodol ar y cafeatau a restrir yn y cyngor cyfreithiol a restrir yn yr adroddiad hwn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/10/2018
Effeithiol O: 07/11/2018
Penderfyniad:
CYTUNWYD: i gymeradwyo’r broses gaffael gan gynnwys cymeradwyo’r meini prawf arfarnu a dogfennaeth tendro a gwahodd tendrau gan ddarparwyr gwasanaeth posibl i fod yn gyfrifol am drin casgliadau Ysgubo’r Ffordd o Awdurdodau Lleol Caerdydd, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd Newport and Rhondda Cynon Taf
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/10/2018
Effeithiol O: 07/11/2018
Penderfyniad:
CYTUNWYD: I wneud Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) parthed of 72 Llewellyn Avenue, Trelái, Caerdydd, CF5 4ED