Manylion y penderfyniad

Caffael Cytundeb Fframwaith (Fframwaith B) ar gyfer cynnal a chadw ystâd eiddo annomestig y Cyngor

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniad:

CYTUNWYD:

 

1.     i nodi’r diweddariad ar y Fframwaith arfaethedig ar gyfer darparu gwaith toi arbenigol

 

2.     i gymeradwyo cwmpas diwygiedig y fframwaith arfaethedig, y cyfeirir ato fel Fframwaith B ac fel y’i gosodir yng nghorff yr adroddiad

 

3.     i gymeradwyo’r Weithdrefn Gyfyngedig i’w  dilyn

 

4.     i gymeradwyo’r meini prawf arfarnu cyffredinol sef 60% cost a 40% ansawdd, a

 

5.         chymeradwyo dechrau’r broses gaffael trwy ddosbarthu’r hysbysiad a dogfennau caffael OJEU..

Rhesymau dros y penderfyniad:

I barhau â’r broses i alluogi’r Cyngor i benodi contractwyr i’r Cytundeb Fframwaith arfaethedig ar gyfer darparu cynnal a chadw Gwaith Toi Arbenigol ystâd adeiladau annomestig am gyfnod arfaethedig o 3 blynedd, gyda’r opsiwn i ymestyn am gyfnod o hyd at 1 flwyddyn.

 

Dyddiad cyhoeddi: 01/11/2018

Dyddiad y penderfyniad: 12/10/2018

Effeithiol O: 13/11/2018