Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth yngl?n â’r hyn y mae cyrff penderfynu'r cyngor wedi'i benderfynu yn ddiweddar.
Neu gallwch ymweld â thudalen penderfyniadau swyddogion ar gyfer gwybodaeth am benderfyniadau y mae swyddogion penodol y cyngor wedi'u.
Gallwch hefyd edrych ar grynoadau o’n penderfyniadau.
Cofrestrau Penderfyniad / nid Rhybuddion yn cael eu cyfieithu fel mater o drefn, Os oes angen fersiwn Cymraeg cysylltwch รข'r Swyddfa Cabinet ar 02920 872396
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Amgylcheddol
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/10/2017 - Pwyllgor Craffu Amgylcheddol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/11/2017
Effeithiol O: 03/10/2017
Penderfyniad:
Nododd Swyddogion gynnwys yr 'Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Cyntaf' a gyflwynwyd i'r Cabinet mewn cyfarfod ddydd Iau 21 Medi 2017. Cytunodd Aelodau â’r farn ei bod hi’n rhy gynnar i lunio unrhyw gasgliadau hirdymor o’r adroddiad a dylid ei defnyddio fel dogfen sylfaenol gychwynnol i fesur cynnydd yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor ychwanegu ‘Ail Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd’ at restr o syniadau am raglenni gwaith posibl ar gyfer 2018/19; yr amcan byddai craffu'r ddogfen hon yn erbyn y cynnydd a gyflawnwyd mewn perthynas â chyflwyno Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd a'i gymharu â’r ffigurau sylfaenol a nodwyd yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd Cyntaf’.
Yn ogystal â gohirio craffu mwy manwl ar Ail Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd hyd 2018/19, pwysleisiodd Aelodau bwysigrwydd gyrru'r newid moddol 50:50 yn yr hirdymor. Roeddynt yn teimlo bod Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn gyfrwng pwysig ar gyfer gyrru’r newid moddol 50:50 a bod craffu ar yr elfen drafnidiaeth o hyn yn bwysig iawn ar gyfer y dyfodol. O ganlyniad, mae'r Pwyllgor yn awyddus iawn i graffu ar unrhyw gynlluniau o ran trafnidiaeth ar gyfer Caerdydd yn y dyfodol. Byddai hyn yn cynnwys y papur gwyrdd ar drafnidiaeth a fydd yn cael ei lunio erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2017/18.
Yn olaf, mae’r Pwyllgor yn ymwybodol bod y Cyngor yn diweddaru nifer o ddogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol sy’n cysylltu’n uniongyrchol â datblygu Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd. Cadarnhaodd Aelodau y byddant yn adolygu’r casgliad o ddogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol newydd ac yn craffu arnynt yn ystod 2017/18 os byddent yn teimlo bod hynny’n briodol.
PENDERFYNWYD - nodi’r adroddiad.