Manylion y penderfyniad

Briff i Aelodau: Yr Adroddiad Monitro Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd Blynyddol cyntaf

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Amgylcheddol

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Nododd Swyddogion gynnwys yr 'Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Cyntaf' a gyflwynwyd i'r Cabinet mewn cyfarfod ddydd Iau 21 Medi 2017.  Cytunodd Aelodau â’r farn ei bod hi’n rhy gynnar i lunio unrhyw gasgliadau hirdymor o’r adroddiad a dylid ei defnyddio fel dogfen sylfaenol gychwynnol i fesur cynnydd yn y dyfodol.  Cytunodd y Pwyllgor ychwanegu ‘Ail Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd’ at restr o syniadau am raglenni gwaith posibl ar gyfer 2018/19; yr amcan byddai craffu'r ddogfen hon yn erbyn y cynnydd a gyflawnwyd mewn perthynas â chyflwyno Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd a'i gymharu â’r ffigurau sylfaenol a nodwyd yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd Cyntaf’.

 

Yn ogystal â gohirio craffu mwy manwl ar Ail Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd hyd 2018/19, pwysleisiodd Aelodau bwysigrwydd gyrru'r newid moddol 50:50 yn yr hirdymor.  Roeddynt yn teimlo bod Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn gyfrwng pwysig ar gyfer gyrru’r newid moddol 50:50 a bod craffu ar yr elfen drafnidiaeth o hyn yn bwysig iawn ar gyfer y dyfodol. O ganlyniad, mae'r Pwyllgor yn awyddus iawn i graffu ar unrhyw gynlluniau o ran trafnidiaeth ar gyfer Caerdydd yn y dyfodol. Byddai hyn yn cynnwys y papur gwyrdd ar drafnidiaeth a fydd yn cael ei lunio erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2017/18.   

 

Yn olaf, mae’r Pwyllgor yn ymwybodol bod y Cyngor yn diweddaru nifer o ddogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol sy’n cysylltu’n uniongyrchol â datblygu Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd.  Cadarnhaodd Aelodau y byddant yn adolygu’r casgliad o ddogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol newydd ac yn craffu arnynt yn ystod 2017/18 os byddent yn teimlo bod hynny’n briodol.  

 

PENDERFYNWYD - nodi’r adroddiad.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/11/2017

Dyddiad y penderfyniad: 03/10/2017

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/10/2017 - Pwyllgor Craffu Amgylcheddol

Dogfennau Cefnogol: