Mater - penderfyniadau

Cynigion Trefniadau Ysgol: Gwella darpariaeth arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol 2018-19

05/07/2018 - Cynigion Trefniadau Ysgol: Gwella darpariaeth arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol 2018-19

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr yr adroddiad heb eu newid.

 

2.   Yn dibynnu ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, cymeradwyo‘r cynnig i ymestyn yr ystod oedran yn Greenhill o 11 - 16 i  11 - 19 (mae angen penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wneud hyn)

 

3.   Yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu Ysgol yr Forwyn Fair: cynnwys adeiladau CAA yng nghynllun Band B ar gyfer adeiladau newydd Ysgol y Forwyn Fair.

 

4.   awdurdodi swyddogion i gymryd camau priodol i weithredu'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr adroddiad.

 

5.   awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r penderfyniad ymhen 7 diwrnod ar ôl penderfynu ar y cynnig.

 

6.   dirprwyo gwaith cymeradwyo unrhyw gontractau angenrheidiol i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, wedi ymgynghori â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Aelodau Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad ac Addysg a Sgiliau.