Manylion y penderfyniad

Cynigion Trefniadau Ysgol: Gwella darpariaeth arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol 2018-19

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Yn ei gyfarfod ar 19 Ebrill 2018, cytunodd y Cabinet i gyhoeddi hysbysiadau statudol addas i:
• Gynyddu capasiti T? Gwyn fel bod 198 lle yno;
• Estyn yr ystod oedran yn Greenhill o 11-16 i 11-19 a chynyddu capasiti’r ysgol i 64 lle;
• Newid math yr anghenion addysgiadol arbennig y mae Ysgol Meadowbank yn cynorthwyo;
• Dirwyn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Allensbank i’w therfyn a chau’r dosbarth ym mis Gorffennaf 2020 neu pan fo’r holl ddisgyblion presennol wedi cwblhau eu cyfnod cynradd os yw hynny ynghynt; agor dosbarth ymyrraeth gynnar wyth lle ar gyfer plant ag anawsterau lleferydd ac iaith;
• Agor Canolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Pwll Coch gyda 10 lle i ddechrau ond gyda phosibilrwydd o estyn hyd at 20 lle yn y dyfodol wrth i’r galw dyfu.

• Ehangu nifer y lleoedd yn CAA Ysgol Glantaf i 30 o leoedd.

Mae’r adroddiad hwn er mwyn rhoi gwybod i’r Cabinet am unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd, ymateb y Cyngor i’r rhain ac argymhellion ar gyfer gweithredu’r cynigion neu ymateb fel arall.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr yr adroddiad heb eu newid.

 

2.   Yn dibynnu ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, cymeradwyo‘r cynnig i ymestyn yr ystod oedran yn Greenhill o 11 - 16 i  11 - 19 (mae angen penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wneud hyn)

 

3.   Yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu Ysgol yr Forwyn Fair: cynnwys adeiladau CAA yng nghynllun Band B ar gyfer adeiladau newydd Ysgol y Forwyn Fair.

 

4.   awdurdodi swyddogion i gymryd camau priodol i weithredu'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr adroddiad.

 

5.   awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r penderfyniad ymhen 7 diwrnod ar ôl penderfynu ar y cynnig.

 

6.   dirprwyo gwaith cymeradwyo unrhyw gontractau angenrheidiol i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, wedi ymgynghori â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Aelodau Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad ac Addysg a Sgiliau.

 

 

Cyswllt: Nick Batchelar, Director of Education E-bost: Nicholas.Batchelar@cardiff.gov.uk Tel: 0292087 2700.

Awdur yr adroddiad: Nick Batchelar

Dyddiad cyhoeddi: 05/07/2018

Dyddiad y penderfyniad: 05/07/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/07/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 18/07/2018

Dogfennau Cefnogol: