Gellir
gweld yr agend aand yn adrodd ar gyfer Cabinet
Prifddinas-Rhanbarth Caerdydd yma.
Sefydlwyd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys
Arweinwyr Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Caerdydd;
Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Casnewydd; Rhondda Cynon Taf; Torfaen; a
Bro Morgannwg yn 2017 er mwyn goruchwylio’r gwaith o gyflawni
Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae’r
Fargen Ddinesig yn rhoi’r pwerau a’r adnoddau i
bartneriaid lleol i ddatgloi twf economaidd sylweddol ledled
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r Fargen Ddinesig hefyd yn
rhoi cyfle i barhau i daclo rhwystrau’r ardal o ran twf
economaidd drwy: wella cysylltedd trafnidiaeth; codi lefelau
sgiliau; cefnogi pobl i gael gwaith; a rhoi’r cymorth sydd ei
angen ar fusnesau i arloesi ac i dyfu. Bydd y fargen hefyd yn
datblygu arweinyddiaeth gryfach a mwy effeithiol ledled
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Yn benodol,
mae’r Cabinet yn gyfrifol am oruchwylio Cronfa
Fuddsoddi’r Fargen Ddinesig, sydd werth £495m, fel y
nodir yn y Cytundeb Gweithio ar y Cyd a arwyddwyd gan y 10
Cyngor.
Y Cytundeb
Gweithio ar y Cyd yw’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer
sefydlu Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gallwch ei weld
yma.