English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion Pwyllgor

Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Cylch gwaith

Gellir gweld yr agend aand yn adrodd ar gyfer Cabinet Prifddinas-Rhanbarth Caerdydd yma.


Sefydlwyd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys Arweinwyr Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Caerdydd; Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Casnewydd; Rhondda Cynon Taf; Torfaen; a Bro Morgannwg yn 2017 er mwyn goruchwylio’r gwaith o gyflawni Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.


Mae’r Fargen Ddinesig yn rhoi’r pwerau a’r adnoddau i bartneriaid lleol i ddatgloi twf economaidd sylweddol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r Fargen Ddinesig hefyd yn rhoi cyfle i barhau i daclo rhwystrau’r ardal o ran twf economaidd drwy: wella cysylltedd trafnidiaeth; codi lefelau sgiliau; cefnogi pobl i gael gwaith; a rhoi’r cymorth sydd ei angen ar fusnesau i arloesi ac i dyfu. Bydd y fargen hefyd yn datblygu arweinyddiaeth gryfach a mwy effeithiol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Yn benodol, mae’r Cabinet yn gyfrifol am oruchwylio Cronfa Fuddsoddi’r Fargen Ddinesig, sydd werth £495m, fel y nodir yn y Cytundeb Gweithio ar y Cyd a arwyddwyd gan y 10 Cyngor.

Y Cytundeb Gweithio ar y Cyd yw’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer sefydlu Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gallwch ei weld yma.

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.