(a)
|
Monitro a chraffu ar safonau moesegol yr Awdurdod,
ei Aelodau, cyflogeion, ac unrhyw ddarparwyr cysylltiedig
gwasanaethau’r Awdurdod, ac adrodd i’r Cyngor ar unrhyw
faterion sy’n peri pryder.
|
(b)
|
Cynghori’r Cyngor ar gynnwys ei God Moesegol
a diweddaru’r Cod fel sy’n briodol.
|
(c)
|
Cynghori’r Cyngor o ran gweithredu’r
Cod yn effeithiol gan gynnwys materion fel hyfforddi Aelodau a
chyflogeion ar ddefnyddio’r Cod.
|
(d)
|
Ystyried a phenderfynu ar ganlyniad cwynion lle
mae Cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig wedi gweithredu’n
groes i’r Cod yn unol â’r gweithdrefnau y
cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Safonau, gan gynnwys gosod unrhyw
gosbau sydd ar gael i’r Pwyllgor.
|
(e)
|
Goruchwylio a monitro gweithdrefnau
chwythu’r chwiban y Cyngor ac ystyried materion moesegol
sy’n codi o gwynion dan y weithdrefn a chwynion
eraill.
|
(f)
|
Rhoi neu wrthod ceisiadau am drwyddedau mewn
perthynas â lles aelodau dan God Ymddygiad Aelodau yn unol
â’r darpariaethau statudol perthnasol.
|
(g)
|
Cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â
chynghorau cymuned sydd wedi’u lleoli yn ardal y Cyngor ac
aelodau’r cynghorau cymuned hynny sy’n ofynnol yn
ôl y gyfraith.
|
(h)
|
Argymell i’r Cyngor
a’r Cabinet unrhyw ganllawiau ychwanegol o ran materion
cywirdeb.
|
(i)
|
Gwrando a phenderfynu ar unrhyw gwynion o ran
camymddwyn gan Aelodau neu adroddiad y Swyddog Monitro, un ai trwy
atgyfeiriad gan yr Ombwdsmon neu fel arall.
|
(j)
|
Argymell darparu, i’r
Swyddog Monitro, adnoddau y bydd ef neu hi eu hangen i gyflawni ei
ddyletswyddau ef neu hi.
|
|
Bydd
angen i holl Aelodau’r Pwyllgor gyflawni hyfforddiant
perthnasol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n
briodol.
|