Lleoliad arfaethedig: Tŷ Dysgu
Cyswllt: Sheila Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau am Absenoldeb Cofnodion: Gwahoddwyd Alison Ward i Gadeirio ar gyfer rhan ffurfiol proses benodi’r CCB yn absenoldeb Darren Mepham (Y Prif Swyddog Gweithredol Arweiniol). Nodwyd a chofnodwyd ymddiheuriadau. Gofynnodd y Cabinet i roi gwybod i Chris Bradshaw eu bod yn cydymdeimlo ag ef.
|
|
Datgan Buddiannau Cofnodion: Nid oedd unrhyw fuddiannau i’w datgan a wnaed ar eitemau ar agenda'r cyfarfod.
|
|
Cadeirydd Cofnodion:
Gofynnwyd am enwebiadau gan Aelodau ar gyfer Cadeirydd am y flwyddyn i ddod. Enwebwyd y Cynghorydd Andrew Morgan. Cafodd ei eilio a’i ethol yn Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Yna, aeth y Cyng. Morgan ati i Gadeirio a gofyn am enwebiadau ar gyfer dau Is-Gadeirydd. Derbyniwyd enwebiadau ar gyfer y Cynghorwyr Peter Fox a Huw Thomas. Cawsant eu heilio a’u hethol fel Is-Gadeiryddion ar gyfer y flwyddyn i ddod.
|
|
Adroddiad Alldro a Datganiad Ariannol Blynyddol 2016/17 PDF 118 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet adroddiad ar ran y Corff Atebol:-
1. 1. Rhoi manylion i’r Cyd-Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (Cyd-Gabinet) am yr alldro terfynol yn erbyn ei gyllideb ar gyfer rhan o’r flwyddyn 2016/17, sef y cyfnod rhwng 1 Mawrth – 31 Mawrth 2017. 2. 2. Cyflwyno i’r Cyd-Gabinet Ffurflen Flynyddol y Cyrff Llai heb ei harchwilio (Ffurflen Flynyddol) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 0217, i’w hystyried a’i chymeradwyo, yn unol â’r dyddiad cau statudol, sef 30 Mehefin 2017. 3. 3. Yn amodol ar y Cyd-Gabinet yn cymeradwyo’r Ffurflen Flynyddol, caiff y ffurflen ei chyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru, er mwyn galluogi Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) i gynnal ei harchwiliad allanol o’r ffurflen. PENDERFYNWYD: y dylai Cyd-gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
a) Nodi’r alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 31 Mawrth 2017 a lefel y gwarged ar gael i gefnogi cyllideb y Cyd-Gabinet ar gyfer 2017/18;
b) Ystyried a chymeradwyo Ffurflen Flynyddol y Cyrff Llai heb ei harchwilio ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2017, wedi’i hatodi fel Atodiad A, ac;
c) Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r Ffurflen Flynyddol ar ran y Cyd-Gabinet ac awdurdodi’r Corff Atebol i gyflwyno’r Ffurflen Flynyddol i Swyddfa Archwilio Cymru.
|
|
Derbyn a chymeradwyo cofnodion y Cabinet Rhanbarthol ar:- PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
a) 17 Mawrth 2017 b) 02 Mai 2017
Gofynnodd y Cyng. Morgan i gydweithwyr a oedd ganddynt unrhyw ddiwygiadau i’w gwneud i’r cofnodion drafft o’r ddau gyfarfod diwethaf a ddosbarthwyd. Tynnodd Sheila Davies sylw Aelodau at ddiwygiadau i ddwy frawddeg yng Nghofnod Rhif 5 o gofnodion 02 Mai 2017, gan fod angen addasiadau bach iddynt. Cytunwyd ar y diwygiadau yn dilyn hynny ac yna cadarnhawyd dwy gyfres o gofnodion fel rhai cywir o’r ddau gyfarfod.
|
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf Cofnodion:
Gofynnodd y Cynghorydd Morgan i gydweithwyr a oeddent yn dymuno parhau i gwrdd ar ddydd Gwener, neu newid i ddiwrnod arall. Awgrymwyd boreau Llun hefyd. Nodwyd bod y ddau ddiwrnod yn effeithio ar wahanol Aelodau am wahanol resymau, ond cytunwyd y byddai’r dyddiadau drafft yn cael eu dosbarthu i Aelodau gytuno arnynt yn y cyfarfod ffurfiol nesaf. Yn dilyn hynny, byddai calendr o gyfarfodydd ar gyfer y 6 i 12 mis nesaf ar gael ar y wefan er mwyn hysbysu’r cyhoedd a phartneriaid am amserlen o gyfarfodydd cyhoeddus.
|
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: i) Cyfeiriodd y Cyng. David at adroddiad Tasglu’r Cymoedd, a oedd ar fin cael ei gyhoeddi, a chynhaliwyd trafodaeth yn ymwneud ag ymgysylltu ac ymgynghori â’r gr?p o’r corff hwn o ran gwaith partneriaeth rhanbarthol. Awgrymwyd y dylid gwahodd Maureen Howell i gyfarfod anffurfiol yn y dyfodol i ddiweddaru’r Aelodau ar waith y Tasglu.
ii) Awgrymwyd y dylid gwneud cysylltiadau ffurfiol â chydweithwyr sy’n ymgymryd â Bargen Ddinesig Abertawe fel ffordd o fynd i’r afael â phrosiectau o arwyddocâd mwy cenedlaethol ar draws De Cymru, gan ddefnyddio enghreifftiau ymhlith dinasoedd Lloegr sy’n gwneud gwaith tebyg. Gallai hyn gynnwys cwrdd â chydweithwyr o Lywodraeth Cymru a’r DU.
iii) Nodwyd bod Will Godfrey wedi trefnu cyfarfod cychwynnol â Llywodraeth Cymru ynghylch ardrethi busnes yr wythnos nesaf. Gofynnodd Aelodau i Will siarad â nhw yn benodol am dwf a materion cadw ardrethi busnes a rhoi adborth mewn cyfarfod anffurfiol diweddarach, yn ogystal â chysylltu â’r Prif Swyddog yn Abertawe fel cymhariaeth.
Diolchodd y Cyng. Morgan ei gydweithwyr am fod yn bresennol a daethpwyd â’r cyfarfod i ben.
|