Er mwyn cadw cymeriad neu olwg ardaloedd cadwraeth, gall y Cyngor ddileu hawliau datblygiad a ganiateir ar gyfer amrywiol dai annedd dan Erthygl 4(2), Cynllunio Tref a Gwlad (Gorchymyn Datblygiad a Ganiateir Cyffredinol) 1995 (GDGC).
Mae wedi dod yn amlwg nad yw’r amddiffyniadau cyfredol sydd ar waith i atal waliau terfyn rhag cael eu dymchwel (yn bennaf i alluogi parcio) yn ddigonol er mwyn rheoli’n effeithiol newid yn nwy ardal gadwraeth Llandaf.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, cynigir Cyfeiriadau Erthygl 4(2) ychwanegol i ddileu hawliau datblygiad a ganiateir ar gyfer dymchwel yn rhannol unrhyw ffurf ar dir caeedig yn Ardaloedd Cadwraeth Llandaf a Ffordd Caerdydd (Dosbarth B Rhan 31 Atodlen 2 GDGC). Yna bydd angen caniatâd cynllunio ar newidiadau (ni chodir tâl am y ceisiadau hyn).
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 08/06/2018
Angen Penderfyniad: 12 Gorff 2018 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth
Prif Gyfarwyddwr: Director of City Operations
Y Broses Ymgynghori
Mae aelodau ward Llandaf yn ymwybodol o’r Erthygl 4(2) arfaethedig. Mae Gr?p Cadwraeth Llandaf a Chymdeithas Llandaf hefyd yn gwybod.
Bydd llythyron yn cael eu hanfon at bob perchennog t? yr effeithir arno ac mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i roi hysbyseb yn y wasg sy’n rhoi o leiaf 21 diwrnod ar gyfer sylwadau.
Scrutiny Consideration: green