Mater - penderfyniadau

Cyfrif Sylfaen Treth Gyngor 2018/19

30/05/2018 - Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor

PENDERFYNWYD:

 

(1)          cymeradwyo cyfrifiad sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn 2018/19;

 

(2)          yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen Treth) (Cymru), fel y’u diwygiwyd, 143,453 fydd y swm a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel ei Sylfaen Treth Gyngor ar gyfer y flwyddyn 2018/2019

 

 

(3)        yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen Treth) (Cymru), fel y’u diwygiwyd, bydd y symiau a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel y Sylfaen Treth Gyngor ar gyfer y flwyddyn 2018/2019 yn y cymunedau yn amodol ar braesept fel a ganlyn:-

 

Llys-faen

2,350

Pentyrch        

3,263

Radur

3,709

Sain Ffagan

1,311

Pentref Llaneirwg

1,543

Thongwynlais

823

 

(4)          y telir praeseptau yn 2018/19 i Awdurdod Heddlu De Cymru trwy randaliadau cyfartal ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis o fis Ebrill 2018 tan fis Mawrth 2019 a thelir y rhai i’r Cynghorau Cymuned trwy un taliad ar 1 Ebrill 2018, ac y byddant ar yr un sail a ddefnyddiwyd yn 2017/18 ac y rhoddir gwybod i awdurdodau praeseptu yn unol â hynny.