Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn cynnwys manylion am ymchwil wedi'i wneud ar feini prawf a threfniadau derbyn i ysgolion gan Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru. Cynigiodd yr adroddiad ymgynghoriad ar ystod o ddewisiadau mewn perthynas â meini prawf derbyn a nodwyd y cyflwynir canlyniadau'r ymgynghoriad i'r Cabinet yng Ngwanwyn 2018.
PENDERFYNWYD:
1. bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ymgynghori ar y meini prawf pan fo mwy o geisiadau na lleoedd wedi adolygu ar gyfer derbyn i addysg feithrin, cynradd ac uwchradd fel y’i cynhwysir yn Atodiad 4
2. nodi y derbynnir adroddiad yng ngwanwyn 2018 ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gefnogi’r gwaith o bennu’r Trefniadau Derbyn ar gyfer 2019/20.
3. bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ystyried ymhellach sut gall meini prawf derbyn amgen effeithio'n gadarnhaol ar amrywiaeth a/neu ddisgyblion dan anfantais cymdeithasol-economaidd
4. nodi y adolygir dalgylchoedd ar ôl yr ymgynghoriadau ar newidiadau arfaethedig i batrwm cyfredol y ddarpariaeth ysgol sy'n dod o raglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif.