Rôl y Pwyllgor yw craffu, mesur a hyrwyddo gwelliant o ran perfformiad y Cyngor o ran darparu gwasanaethau a chydymffurfio â pholisïau, nodau ac amcanion y Cyngor ym maes gwasanaethau oedolion a chymunedol, gan gynnwys:
Tai Cyhoeddus a Phreifat
Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl
Diogelwch Cymunedol
Adfywio Cymdogaethau a Chymunedau Nesaf
Cyngor a Budd-daliadau
Diogelu Defnyddwyr
Strategaeth Pobl H?n
Gofal Cymdeithasol Oedolion
Gwasanaethau Gofal Cymunedol
Anableddau Iechyd Meddwl a Chorfforol
Strategaeth Comisiynu
Partneriaeth Iechyd
Bwrdd Gwasanaeth Lleol
Asesu effaith partneriaethau gyda ac adnoddau a gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau ar y cyd llywodraeth leol, Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru a chyrff anllywodraethol lled-adrannol ar wasanaethau iechyd ac effeithiolrwydd gwasanaethau’r Cyngor
Adrodd i gyfarfod priodol y Cabinet neu’r Cyngor ar ei ddarganfyddiadau a gwneud argymhellion ar fesurau, a all wella perfformiad y Cyngor a gwasanaethau yn y maes hwn.
Gweithredu fel Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn y Cyngor fel sy’n ofynnol yn ôl Deddf Heddlu a Chyfiawnder 2006 ac unrhyw ailddeddfiad neu addasiad; ac fel dirprwy llawn y cyngor, ymarfer yr holl bwerau a swyddogaethau a ganiateir dan y Ddeddf honno.
Clerc: Harry Mayo. E-bost: A.Redmond@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 02920 872432
E-bost: a.redmond@caerdydd.gov.uk