Eitem Agenda

Cynllun Gweithredu Addysg a Dysgu Gydol Oes 2017-19

(a)               Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) yn bresennol ac mae’n bosibl y bydd hi am wneud datganiad.

 

 (b)       Bydd Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a’i swyddogion yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan Aelodau;

 

 (c)       Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

 

(d)       Ystyrir camau i’w cymryd yn berthnasol i'r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) a Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) i’r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad a dywedodd fod addysg yn flaenoriaeth ar gyfer y weinyddiaeth ddiwethaf ac mae hefyd yn flaenoriaeth yn y cynllun 5 mlynedd Uchelgais Prifddinas newydd.

 

Cafodd Aelodau wahoddiad i wneud sylwadau, gofyn cwestiynau neu geisio eglurhad pellach am y wybodaeth dderbyniwyd.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  • Holodd yr aelodau am natur darpariaeth ysgolion fydd ar gael yn y datblygiadau newydd wedi cyfeirio atynt yn y CDLl a dywedwyd wrthynt fod y cynigion Band A ar gyfer 2019-24 yn cyfeirio at 2 ddatblygiad mawr a bod y Tîm Cynllunio Trefnidiaeth Ysgolion, ynghyd â’r Adran Gynllunio, yn ystyried faint o ysgolion fydd eu hangen, yn ogystal â’u cyfrwng.

 

  • Mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch digonedd y lleoedd ysgol a holon nhw a feddylir am ail-lunio’r dalgylchoedd presennol.
  •   Dywedodd y Cyfarwyddwr bod angen cynnal ymgynghoriad a chyhoeddi’r Trefniadau Derbyn i’r Ysgol bob blwyddyn   Mae’r Athro Chris Taylor, Prifysgol Caerdydd, yn cynnal asesiad ar hyn o bryd ar a yw’r weithdrefn gyfredol yn addas i’w diben, bydd dalgylchoedd ymhlith y trefniadau hynny a gaiff eu hystyried.  Disgwylir iddo adrodd yn ôl ar ddiwedd mis Medi a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Hydref neu fis Tachwedd.
  • Cyfeiriodd yr aelodau at adroddiadau Estyn blaenorol ac yn enwedig at a oes cronfa addysgu ddigonol a holon nhw am yr hyn sy’n cael ei wneud i sicrhau bod cronfa ddigonol.  Nododd swyddogion bod newidiadau wedi bod yn addysg athrawon yng Nghymru, gyda’r trefniadau cyfredol yn cael eu beirniadu sydd wedi arwain at wneud y newidiadau.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.

 

 

Dogfennau ategol: