Eitem Agenda

Partneriaeth Dwf Economaidd Rhanbarthol

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet Rhanbarthol adroddiad ar ran y Cyng. Huw Thomas:-

 

1.         1. Cymeradwyo cyfansoddiad y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol.

2.         2. Dirprwyo awdurdod i swyddogion i sefydlu'r Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol ac i ymgymryd â’r broses recriwtio.

3.         Cytuno ar gyllid ar gyfer y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD: cytunwyd bod Cyd-gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

 

a)    Yn cymeradwyo’r cynnig sy’n atodedig fel Atodiad 1 i’r Adroddiad, yn amlinellu egwyddorion a chyfansoddiad y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol (‘REGP’).

 

b)    Dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr Cyngor Caerdydd, mewn ymgynghoriad â chyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig a’r Corff Atebol (i) i ymgymryd â’r ymarfer recriwtio ar gyfer penodi aelodau Bwrdd yr REGP a (ii) i adrodd yn ôl i’r Cabinet gydag argymhellion o ran yr ymgeiswyr mwyaf addas i’w penodi, er mwyn i’r Cabinet eu cymeradwyo.

 

c)    Dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr Cyngor Caerdydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Cabinet Rhanbarth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r aelod blaen ar gyfer y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol, er mwyn dewis y panel penodi y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad hwn

 

d)    Ar gyfer blwyddyn ariannol eleni a’r flwyddyn nesaf, dyrannu cyllid o hyd at £30,000 y flwyddyn er mwyn cefnogi sefydlu'r Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol, â chymorth ariannol cyfredol ar gyfer yr REGP yn cael ei ystyried gan y Cabinet Rhanbarthol wrth osod ei Gyllideb Blynyddol.

 

e)    Dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr Cyngor Caerdydd, er mwyn pennu’r gydnabyddiaeth mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Cabinet Rhanbarth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r aelod blaen ar gyfer y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol.

 

Dogfennau ategol: