Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. cytuno i‘r dull o ddarparu Gwasanaethau Cyflogadwyedd yn y dyfodol fel y nodir yn yr adroddiad
2. dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid, Tai a Chymunedau i gymryd camau angenrheidiol i weithredu’r gwasanaeth Cyflogadwyedd a threfniadau pontio newydd.
3. awdurdodi swyddogion i adolygu'r agwedd at y rhaglen Creu Cymunedau Gwydn, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, i lywio ffordd ymlaen arfaethedig i’r Cyngor ei hystyried.
Cofnodion:
Ystyriwyd adroddiad yn cynnwys cynigion ar gyfer trefniadau newydd ar gyfer darparu gwasanaethau cyflogadwyedd yng Nghaerdydd ynghyd ag ymagwedd arfaethedig at adeiladu cymunedau gwydn. Cynigiwyd y dylai'r Cyngor ddarparu gwasanaethau cyflogadwyedd craidd yn uniongyrchol ledled Caerdydd a nodwyd bod ymateb cadarnhaol i'r ymgynghoriad wedi’i dderbyn.
PENDERFYNWYD:
1. cytuno i‘r dull o ddarparu Gwasanaethau Cyflogadwyedd yn y dyfodol fel y nodir yn yr adroddiad
2. dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid, Tai a Chymunedau i gymryd camau angenrheidiol i weithredu’r gwasanaeth Cyflogadwyedd a threfniadau pontio newydd.
3. awdurdodi swyddogion i adolygu'r agwedd at y rhaglen Creu Cymunedau Gwydn, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, i lywio ffordd ymlaen arfaethedig i’r Cyngor ei hystyried.
Dogfennau ategol: