Eitem Agenda

Adroddiad Alldro a Datganiad Ariannol Blynyddol 2016/17

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet adroddiad ar ran y Corff Atebol:-

 

1.         1. Rhoi manylion i’r Cyd-Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (Cyd-Gabinet) am yr alldro terfynol yn erbyn ei gyllideb ar gyfer rhan o’r flwyddyn 2016/17, sef y cyfnod rhwng 1 Mawrth – 31 Mawrth 2017.

2.         2. Cyflwyno i’r Cyd-Gabinet Ffurflen Flynyddol y Cyrff Llai heb ei harchwilio (Ffurflen Flynyddol) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 0217, i’w hystyried a’i chymeradwyo, yn unol â’r dyddiad cau statudol, sef 30 Mehefin 2017.

3.         3. Yn amodol ar y Cyd-Gabinet yn cymeradwyo’r Ffurflen Flynyddol, caiff y ffurflen ei chyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru, er mwyn galluogi Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) i gynnal ei harchwiliad allanol o’r ffurflen. 

PENDERFYNWYD: y dylai Cyd-gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

 

a)        Nodi’r alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 31 Mawrth 2017 a lefel y gwarged ar gael i gefnogi cyllideb y Cyd-Gabinet ar gyfer 2017/18;

 

b)        Ystyried a chymeradwyo Ffurflen Flynyddol y Cyrff Llai heb ei harchwilio ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2017, wedi’i hatodi fel Atodiad A, ac;

 

 

c)         Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r Ffurflen Flynyddol ar ran y Cyd-Gabinet ac awdurdodi’r Corff Atebol i gyflwyno’r Ffurflen Flynyddol i Swyddfa Archwilio Cymru.